Mae cerflun maint llawn o ddynolyn sy’n arddangos harddwch mewnol ein system gylchrediad bellach yn cael ei arddangos ym Mharth Corff Dynol Techniquest.
Crëwyd y Cerflun Golau Cysylltedd yn wreiddiol fel darn gweledol i’w arddangos yn nigwyddiadau’r British Heart Foiundation (BHF). Mae’r system gylchrediad disglair yn dangos sut mae gwaed yn llifo o amgylch y corff ac yn helpu pobl i ddeall mwy am y cysylltiad rhwng y galon a chylchrediad, gan ddangos calon iach.
Esboniodd Rhodri Thomas, Pennaeth BHF Cymru: ‘Datblygwyd y Cerflun Cysylltedd yn 2018 i dynnu sylw at y ffaith bod mwy o bobl yn cael eu heffeithio gan glefyd cardiofasgwlaidd (CVD) nag y byddech chi’n sylweddoli. Fe wnaethom ddefnyddio’r cerflun i ddechrau siarad am gysylltedd amodau, ac i ddod â’r cysylltiad rhwng CVD a’n hymchwil yn fyw.
‘Rydym yn falch iawn o roi’r cerflun hwn i Techniquest, lle mae modd ei arddangos yn barhaol a gall miloedd o ymwelwyr ei weld bob blwyddyn.’

Ychwanegodd Sue Wardle, Prif Swyddog Gweithredol Techniquest: ‘Rydym yn ddiolchgar iawn i BHF Cymru ac mae’n wych cael cyfle arall i ddangos ein partneriaeth hirsefydlog gyda nhw. Rwyf wrth fy modd yn gweld y gwaith celf hwn bob tro rwy’n cerdded heibio iddo ar lawr yr arddangosfa. Mae’n ein hatgoffa mor bwysig yw cadw ein calonnau yn iach, fel bod ein cylchrediad ein hunain mor gryf â fersiwn LED y model.
‘Rydyn ni wedi ei osod wrth ymyl arddangosfa ‘curiad calon’ wreiddiol a roddwyd i ni gan BHF Cymru pan agorodd y Science Capital gyntaf yn 2020; felly gallwch fesur cyfradd curiad eich calon eich hun yno hefyd, a gweld y gwahaniaeth rhwng ei gyfradd gorffwys a’r cynnydd sydd pan fyddwch chi wedi gwneud ychydig mwy o ymarfer corff!’
Gall ymwelwyr ddod o hyd i’r Cerflun Golau Cysylltedd a’r arddangosfa Electrocardiogram ger y sleid ar y llawr gwaelod yn ein Parth Corff Dynol.