Rydym yn gyffrous i gyhoeddi partneriaeth gyda STEM Untapped, a fydd yn gweld 1,000 o ddisgyblion yng Nghymru yn cael dealltwriaeth gwell o sut mae STEM yn agor drysau i yrfaoedd cyffrous a gwerthfawr.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae STEM Untapped wedi cydweithio â sefydliadau o’r un anian i greu cyfleoedd i ysgolion Cymru gysylltu â modelau rôl STEM byd-eang, rhannu eu teithiau ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf. Y genhadaeth yw cael effaith wirioneddol ar ymwybyddiaeth gyrfaoedd disgyblion trwy gynnig mewnwelediad dilys i fywydau bob dydd gweithwyr proffesiynol STEM amrywiol a pherthnasol.
Gallwch ddarllen mwy am y tri phrosiect y byddwn yn cydweithio arnynt isod.
Os hoffech ddysgu mwy am STEM Untapped a’u cenhadaeth, gallwch ymweld â’u gwefan, mwynhau cynnwys wedi’i ysgrifennu a’i guradu gan weithwyr proffesiynol STEM, a dilynwch nhw ar eu cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiectau.