Techniquest

O ble ddaeth y syniad am estyniad y Science Capital, a sut gychwynnodd esblygiad Techniquest — o’r hen i’r newydd…? Dyma Lesley Kirkpatrick, cyn-Brif Weithredwr Swyddogol Techniquest, i esbonio:

BETH YW’R PROSIECT SCIENCE CAPITAL?


Gweddnewid ein canolfan darganfod gwyddoniaeth ar Stryd Stuart — dyna yw’r prosiect cyfalaf gwyddoniaeth. Roedd estyniad sylweddol i’n hadeilad yn rhan bwysig o’r prosiect. Mae’r estyniad wedi’n galluogi ni i ehangu ar ein darpariaeth ac i apelio at gynulleidfa fwy amrywiol.

Mae ein hestyniad yn gartref i gynnwys newydd ac arloesol a ddatblygwyd gyda busnesau ac academyddion blaenllaw STEM yng Nghymru. Cefnogir y cyfan gan raglen o gyd-gynhyrchu cymunedol; sy’n tynnu sylw at y rôl sydd gan dechnolegau STEM i’w chwarae yn siapio’n dyfodol fel cymdeithas.

PAM OEDD EI ANGEN?

Roedden ni am wneud gwyddoniaeth yn hygyrch i bawb yng Nghymru. Fel y ganolfan darganfod gwyddoniaeth hynaf — ac un o’r rhai lleiaf — yn y DU, yr unig ffordd i ni fod yn hygyrch i bawb oedd newid ein hadeilad yn gyfan gwbl.

Drwy apelio at gynulleidfa ehangach byddwn yn cynyddu niferoedd ymwelwyr ac yn gwella ar brofiad ein hymwelwyr. Yn hynny o beth byddwn yn creu incwm ychwanegol, a bydd hyn oll yn diogelu cynaliadwyedd ein helusen.

Geirdaon

  • British Heart Foundation
  • Sony UK Technology Centre
  • SRCDC
  • National Imaging Academy
  • Welsh Water
  • Cardiff University

O BLE DDAETH Y CYLLID?


Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r cyllidwyr sydd wedi helpu i wireddu’r prosiect hwn — Cronfa Ysbrydoli Gwyddoniaeth UK Research & Innovation (UKRI) ac Ymddiriedolaeth Wellcome, Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, a chronfa ‘Buddsoddi i Arbed’ Llywodraeth Cymru. Apwyntiwyd tîm o arbenigwyr i gydweithio â ni ar yr estyniad — rheolwyr prosiect, Lee Wakemans, y penseiri HLM, Wardell Armstrong, a’r peirianwyr Hydrock.

UK Research and Innovation Wellcome Trust Moondance Foundation Garfield Weston Foundation Welsh Government Lee Wakemans HLM Architects Hydrock Wardell Armstrong