Techniquest

Dyma brosiect cyffrous sydd wedi gweddnewid Techniquest. Mae e bellach yn ganolfan sy’n fwy o ran maint, yn fwy disglair ac yn dangos arddangosion newydd sy’n addas i bobl o bob oed.

Newid llwyr

Mae arddangosion newydd sbon y Science Capital wedi adfywio a chyfoethogi ein canolfan poblogaidd, gyda’r nod o ysbrydoli, ymgysylltu a dod â gwyddoniaeth yn fyw i’n cynulleidfa chwilfrydig.

Mae’r prosiect wedi gweddnewid Techniquest ac wedi ymestyn maint yr adeilad ym Mae Caerdydd. Mae’r pum parth gwahanol sydd i’w gweld o fewn y Science Capital yn gartref i gynnwys newydd ac arloesol a ddatblygwyd gyda busnesau ac academyddion blaenllaw o feysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yng Nghymru. Cefnogir y cyfan gan raglen o gyd-gynhyrchu cymunedol; sy’n tynnu sylw at y rôl sydd gan dechnolegau STEM i’w chwarae yn siapio’n dyfodol fel cymdeithas.

Arddangosion ar gyfer oes ddigidol

Mae’r arddangosion newydd yn addas ar gyfer ystod fwy eang o oedrannau nag arddangosion gwreiddiol Techniquest. Mae yna hefyd badiau cyffwrdd digidol sy’n cynnig mwy o wybodaeth. Defnyddiwch y rhain i fynd yn ddyfnach i’r wyddoniaeth sydd ar flaen eich bysedd.

Mae hyn oll yn ein helpu ni i apelio at gynulleidfa iau; nid lle i blant ifanc yn unig yw Techniquest mwyach, ond canolfan sydd wedi datblygu a thyfu i apelio at bob oedran. Mae’r ganolfan bellach yn gynaliadwy ym mhell i’r dyfodol.

“Rydyn ni am wneud gwyddoniaeth yn hygyrch i bawb yng Nghymru a thu hwnt. Fel y ganolfan darganfod gwyddoniaeth hynaf — ac un o’r rhai lleiaf — yn y DU, yr unig ffordd i ni fod yn hygyrch i bawb oedd newid ein safle presennol yn gyfan gwbl.”

Lesley Kirkpatrick, cyn-Brif Weithredwr Swyddogol Techniquest

TARDDIAD ENW’R PROSIECT

Nid yw’r term ‘cyfalaf gwyddoniaeth’ (‘science capital’) yn gyfarwydd i bawb. Yn ei hanfod mae’n gysyniad sy’n taflu goleuni ar bam a sut mae rhai pobl yn ymwneud â phrofiadau STEM — a pham bod rhai ddim.

Mae cyfalaf gwyddoniaeth yn fesur o’ch perthynas neu’ch ymrwymiad â gwyddoniaeth, faint o werth rydych chi’n ei roi iddo a pha mor gysylltiedig ydi’r pwnc i chi a’ch bywyd.

Mae’n dangos arwyddocâd yr hyn a wyddoch am wyddoniaeth, sut fyddwch yn meddwl amdano, pa weithgareddau (gwyddonol) yr ydych yn eu gwneud â’ch agwedd a’ch teimladau tuag at STEM.

MAE PAWB YN WAHANOL AC MAE CROESO I BAWB

Mae cyfalaf gwyddoniaeth pawb yn wahanol. Nid yw’n aros yn sefydlog, ond yn hytrach fe all newid dros gyfnod eich bywyd. Po fwyaf y byddwch yn ymwneud â phrofiadau gwyddonol cadarnhaol po fwyaf yw’r potensial i chi gynyddu eich cyfalaf gwyddoniaeth.

Mae gwyddoniaeth ac arloesi yn hanfodol i gymdeithas gyfoes. Mae ganddynt y pŵer i newid y ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau, ac maent yn hollbwysig i’n dyfodol.

Yma yn Techniquest, rydyn ni am dyfu cyfalaf gwyddoniaeth pobl a chroesawu cynifer o ymwelwyr â phosib drwy ein drysau, i roi’r cyfle iddyn nhw brofi rhyfeddodau gwyddoniaeth yn uniongyrchol. Drwy dyfu cyfalaf gwyddoniaeth unigolion a chymunedau Cymru a thu hwnt gallwn helpu pobl i weld gwyddoniaeth fel rhan bwysig o’u bywydau a’u diwylliant. Gallwn helpu i gynyddu cyfleoedd a mynediad i swyddi STEM yn y dyfodol.

Diolch

Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r cyllidwyr sydd wedi helpu i wireddu’r prosiect hwn: Cronfa Ysbrydoli Gwyddoniaeth UK Research & Innovation ac Ymddiriedolaeth Wellcome, Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, a chronfa ‘Buddsoddi i Arbed’ Llywodraeth Cymru.

Buom yn cydweithio â thîm o arbenigwyr ar yr estyniad, gan gynnwys y rheolwyr prosiect, Lee Wakemans, y penseiri HLM, Wardell Armstrong a’r peirianwyr Hydrock.

UK Research and Innovation Wellcome Trust Moondance Foundation Garfield Weston Foundation Welsh Government Lee Wakemans HLM Architects Hydrock Wardell Armstrong