Techniquest

Mae Techniquest yn ganolfan darganfod gwyddoniaeth flaenllaw sydd ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth ac arloesedd.

Dyma gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm. Rydyn ni newydd weddnewid Techniquest, ac mae’n gartref i gynulleidfaoedd o bob oed ymwneud â phynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).

Gallwch ddarganfod mwy am ein gweledigaeth yn ein strategaeth, a dilynwch y dolenni isod i weld ein:

Disability Confident Employer We are a Living Wage Employer

“Mae e wedi bod yn hyfryd cydweithio â phob un ohonoch chi. Roedd e fel bod yn rhan o un teulu MAWR. ‘Dw i wedi mwynhau bob dydd. Diolch am yr atgofion melys. Bydda i’n gweld eisiau pawb.”

Shameema [hen eilod o'n tîm], Mawrth 2023

Gweler isod restr o swyddi gwag presennol a sut i ymgeisio.

Ymddiriedolwr Rheolwr Digwyddiadau


Ymddiriedolwr

Beth am ymuno â’n Bwrdd?

Elusen addysgol sydd wedi’i lleoli yng nghanol Bae Caerdydd yw Techniquest, a ni yw’r darparwr gweithgarwch cyfoethogi STEAM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg) mwyaf yng Nghymru. Fel Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth bwrpasol hynaf gwledydd Prydain, rydyn ni wedi bod yn ysbrydoli chwilfrydedd ac yn darparu cyfleoedd dysgu ymarferol o ansawdd uchel ym maes STEAM ers bron i 40 mlynedd.

Bob blwyddyn, rydyn ni’n ymgysylltu â thros 130,000 o aelodau’r cyhoedd, yn ogystal â 50,000 pellach o gyfranogwyr ysgol a chymunedol, gan gefnogi athrawon, teuluoedd a dysgwyr o bob oed. Mae Techniquest hefyd yn gyrchfan dwristaidd sefydledig a phoblogaidd, sy’n cyfrannu’n sylweddol at fywyd diwylliannol ac addysgol Caerdydd.

Ein cenhadaeth yw tanio angerdd gydol oes dros bynciau STEAM, yn enwedig ymhlith plant, pobl ifanc a chymunedau sydd o bosib â mynediad cyfyngedig at y cyfleoedd hyn. Drwy arddangosfeydd trochol, sioeau byw, gweithdai a rhaglenni allestyn, rydyn ni’n creu profiadau ysbrydoledig sy’n meithrin chwilfrydedd, hyder a chreadigrwydd.

Bydd 2026 yn flwyddyn arbennig o gyffrous pan fydd Techniquest yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed — carreg filltir nodedig sy’n adlewyrchu degawdau o effaith, arloesedd ac ymddiriedaeth y cyhoedd. Er ein bod yn falch o’n hanes, mae pwyslais y Bwrdd a’r tîm arweinyddiaeth yn gadarn ar y dyfodol, er mwyn sicrhau bod yr elusen yn parhau i dyfu, i arloesi ac i ymateb i anghenion newidiol ysgolion, cymunedau a’r gymdeithas.

Ochr yn ochr â dathlu ein llwyddiannau, byddwn yn cyflawni sawl prosiect nodedig, gan gynnwys ychwanegiadau newydd i’n canolfan ym Mae Caerdydd a lansio cerbyd gwyddoniaeth symudol newydd, gan ymestyn ein cyrhaeddiad ymhellach fyth ledled Cymru.

Yn ogystal, mae’r Bwrdd yn mynnu bod llywodraethiant cryf ar waith, a bydd y swyddogaeth hefyd yn cefnogi’r tîm Gweithredol i oruchwylio materion ariannol y sefydliad ac i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal o fewn gofynion cyfreithiol, confensiynau cyfrifyddu ac arfer da.

Gwelwch o dan am ragor o wybodaeth ar y tair rôl yr rydym ni’n recriwtio, a sut i gyflwyno’ch cais:

Ymddiriedolwr cyllid Ymddiriedolwr addysg Cyfarwyddwr anweithredol masnachol Ein gwerthoedd Ein Bwrdd


Ymddiriedolwr Cyllid

Rydyn ni’n chwilio am ymddiriedolwr sydd â phrofiad ym maes cyllid i oruchwylio ein prosesau ariannol, gan ddarparu cyngor, craffu a chefnogaeth i’r elusen.

Gofynion hanfodol

  • Cyfrifydd cymwys sydd â gwybodaeth ac ymwybyddiaeth fasnachol amlwg.
  • Tystiolaeth o allu i gyfathrebu ac egluro gwybodaeth ariannol i aelodau’r Bwrdd a rhanddeiliaid eraill.
  • Sgiliau dadansoddi a gwerthuso, gan ddangos crebwyll.
  • Dealltwriaeth a pharodrwydd i dderbyn y dyletswyddau cyfreithiol, y cyfrifoldeb a’r atebolrwydd o fod yn ymddiriedolwr.
  • Sgiliau cyfathrebu ac arweinyddiaeth da.

Rhinweddau dymunol

  • Profiad a dealltwriaeth amlwg o feysydd codi arian a chyfrifyddu elusennol.
  • Ymrwymiad i bwrpas ac amcanion y sefydliad, ac yn barod i weithredu fel llysgennad ar gyfer yr elusen gyda chyrff allanol, elusennau a chwmnïau.
  • Sgiliau a phrofiad yn un neu fwy o feysydd llywodraethu a rheoli anweithredol e.e. cynllunio strategol, rheoli busnes, cyllid/cyfrifyddiaeth.

Ymrwymiad amser

  • Mae’r Bwrdd yn cwrdd o leiaf bedair gwaith y flwyddyn, yn ogystal â Sesiwn Datblygu’r Bwrdd
  • Disgwylir i chi hefyd ymuno â’r Pwyllgor Archwilio a Chyllid sydd hefyd yn cwrdd bedair gwaith y flwyddyn.
  • Disgwylir i chi fod ar gael i ateb cwestiynau sy’n codi gan y tîm Gweithredol wrth i strategaethau ddatblygu, ac i gefnogi’r Cyfarwyddwr Cyllid os bydd angen.

Cynhwysiant
Mae Techniquest wedi ymrwymo i greu diwylliant cydradd, amrywiol a gwirioneddol gynhwysol lle mae pawb yn teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn gallu bod yn nhw’u hunain. Rydyn ni’n credu bod gan bawb hawl i fyw heb ofn a rhagfarn, ac i gael eu trin yn deg a gyda pharch ac urddas beth bynnag eu rhyw, hil, oedran, rhywedd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, cefndir neu grefydd neu gred, ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl sydd â nodweddion gwarchodedig.

Y broses gwneud cais
I wneud cais, anfonwch CV a llythyr eglurhaol (uchafswm o ddwy ochr A4) yn egluro pam yr hoffech ddod yn un o ymddiriedolwyr Techniquest, a’r sgiliau a’r profiad y byddech chi’n eu cynnig i’r swyddogaeth. Gwnewch yn siŵr fod eich llythyr eglurhaol yn rhoi sylw i feini prawf manyleb yr unigolyn, gan y bydd y rhestr fer o geisiadau’n cael ei llunio ar sail y meini prawf hynny.

Dylai ceisiau gyrraedd erbyn hanner dydd, ddydd Gwener 6 Chwefror 2026 ar yr hwyraf.

  Cyflwyno’ch cais


Ymddiriedolwr Addysg

Rydyn ni’n chwilio am ymddiriedolwr sydd â phrofiad ym maes cyllid i oruchwylio ein prosesau ariannol, gan ddarparu cyngor, craffu a chefnogaeth i’r elusen.

Yn y swyddogaeth hon, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth, cyngor ac arweiniad arbenigol i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, i’r Prif Weithredwr ac i dimau Addysg Techniquest.

Byddwch yn gallu cynnig arweiniad ar y tirlun Addysg presennol, gwerthuso darpariaeth addysg Techniquest yn ogystal â chefnogi er mwyn nodi meysydd i’w gwella a datblygu strategaethau arloesol ar gyfer cyflwyno darpariaeth yn effeithiol i fyfyrwyr.
Byddwch yn gweithredu fel pwynt cyfeirio i’n timau addysg wrth i ni geisio datblygu a chynllunio rhaglenni a chynlluniau i gyflawni’r amcanion strategol.

Bydd angen i chi fod â dealltwriaeth dda o’r system addysg bresennol yng Nghymru.

Gofynion hanfodol

  • Person proffesiynol profiadol ym maes addysg sydd â dealltwriaeth ymarferol o’r cwricwlwm yng Nghymru.
  • Tystiolaeth o allu i gyfathrebu ac egluro gwybodaeth berthnasol i aelodau’r Bwrdd a rhanddeiliaid eraill.
  • Sgiliau dadansoddi a gwerthuso da, gan ddangos crebwyll.
  • Dealltwriaeth a pharodrwydd i dderbyn y dyletswyddau cyfreithiol, y cyfrifoldeb a’r atebolrwydd o fod yn ymddiriedolwr.
  • Sgiliau cyfathrebu ac arweinyddiaeth da.

Rhinweddau dymunol

  • Dealltwriaeth dda o feysydd diogelu ac asesu risg.
  • Ymrwymiad i bwrpas ac amcanion y sefydliad, ac yn barod i weithredu fel llysgennad ar gyfer yr elusen gyda chyrff allanol, elusennau a chwmnïau.
  • Sgiliau a phrofiad yn un neu fwy o feysydd llywodraethu a rheoli anweithredol e.e. cynllunio strategol, rheoli busnes, cyllid/cyfrifyddiaeth.

Ymrwymiad amser
Mae’r Bwrdd yn cwrdd o leiaf bedair gwaith y flwyddyn, yn ogystal â Sesiwn Datblygu’r Bwrdd.

Disgwylir i chi fod ar gael i ateb cwestiynau sy’n codi gan y tîm Gweithredol wrth i strategaethau ddatblygu, ac i gefnogi’r Pennaeth Addysg os bydd angen.

Cynhwysiant
Mae Techniquest wedi ymrwymo i greu diwylliant cydradd, amrywiol a gwirioneddol gynhwysol lle mae pawb yn teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn gallu bod yn nhw’u hunain. Rydyn ni’n credu bod gan bawb hawl i fyw heb ofn a rhagfarn, ac i gael eu trin yn deg a gyda pharch ac urddas beth bynnag eu rhyw, hil, oedran, rhywedd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, cefndir neu grefydd neu gred, ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl sydd â nodweddion gwarchodedig.

Y broses gwneud cais
I wneud cais, anfonwch CV a llythyr eglurhaol (uchafswm o ddwy ochr A4) yn egluro pam yr hoffech ddod yn un o ymddiriedolwyr Techniquest, a’r sgiliau a’r profiad y byddech chi’n eu cynnig i’r swyddogaeth. Gwnewch yn siŵr fod eich llythyr eglurhaol yn rhoi sylw i feini prawf manyleb yr unigolyn, gan y bydd y rhestr fer o geisiadau’n cael ei llunio ar sail y meini prawf hynny.

Dylai ceisiau gyrraedd erbyn hanner dydd, ddydd Gwener 6 Chwefror 2026 ar yr hwyraf.

  Cyflwyno’ch cais


Cyfarwyddwr anweithredol masnachol

Rydyn ni’n gobeithio penodi cyfarwyddwr sydd â phrofiad entrepreneuraidd/masnachol i ychwanegu at sgiliau presennol y Bwrdd ac i helpu i nodi cyfleoedd busnes, fydd yn galluogi’r sefydliad i wireddu ei ddisgwyliadau ar gyfer twf.

Bydd gennych feddwl dadansoddol, a byddwch yn gallu deall dangosyddion perfformiad allweddol y cwmni (a’r rhesymau y tu ôl iddynt) ac awgrymu a datblygu cyfleoedd masnachol sy’n manteisio ar gryfderau’r sefydliad.

Byddwch chi’n rhywun sy’n gallu dylanwadu’n gadarnhaol ar bobl, gan ddod â’u potensial mwyaf allan, a bydd tystiolaeth o’ch rhinweddau arweinyddiaeth ar lefel Bwrdd.

Gofynion hanfodol

  • Person proffesiynol profiadol ym maes busnes sydd â gwybodaeth ac ymwybyddiaeth fasnachol amlwg, yn ddelfrydol gyda phrofiad o fynd â sefydliadau i’r lefel nesaf.
  • Tystiolaeth o allu i gyfathrebu ac egluro prosesau i aelodau’r Bwrdd a rhanddeiliaid eraill.
  • Sgiliau dadansoddi a gwerthuso da, gan ddangos crebwyll.
  • Dealltwriaeth a pharodrwydd i dderbyn y dyletswyddau cyfreithiol, y cyfrifoldeb a’r atebolrwydd o fod yn ymddiriedolwr.
  • Sgiliau cyfathrebu ac arweinyddiaeth da.

Rhinweddau dymunol

  • Ymrwymiad i bwrpas ac amcanion y sefydliad, ac yn barod i weithredu fel llysgennad ar gyfer yr elusen gyda chyrff allanol, elusennau a chwmnïau.
  • Sgiliau a phrofiad yn un neu fwy o feysydd llywodraethu a rheoli anweithredol e.e. cynllunio strategol, rheoli busnes, cyllid/cyfrifyddiaeth.

Ymrwymiad amser
Mae’r Bwrdd yn cwrdd o leiaf bedair gwaith y flwyddyn, yn ogystal â Sesiwn Datblygu’r Bwrdd.

Disgwylir i chi fod ar gael i ateb cwestiynau sy’n codi gan y tîm Gweithredol wrth i strategaethau ddatblygu, ac i gefnogi’r Prif Weithredwr os bydd angen.

Cynhwysiant
Mae Techniquest wedi ymrwymo i greu diwylliant cydradd, amrywiol a gwirioneddol gynhwysol lle mae pawb yn teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn gallu bod yn nhw’u hunain. Rydyn ni’n credu bod gan bawb hawl i fyw heb ofn a rhagfarn, ac i gael eu trin yn deg a gyda pharch ac urddas beth bynnag eu rhyw, hil, oedran, rhywedd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, cefndir neu grefydd neu gred, ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl sydd â nodweddion gwarchodedig.

Y broses gwneud cais
I wneud cais, anfonwch CV a llythyr eglurhaol (uchafswm o ddwy ochr A4) yn egluro pam yr hoffech ddod yn cyfarwyddwr anweithredol Techniquest Enterprises Ltd, a’r sgiliau a’r profiad y byddech chi’n eu cynnig i’r swyddogaeth. Gwnewch yn siŵr fod eich llythyr eglurhaol yn rhoi sylw i feini prawf manyleb yr unigolyn, gan y bydd y rhestr fer o geisiadau’n cael ei llunio ar sail y meini prawf hynny.

Dylai ceisiau gyrraedd erbyn hanner dydd, ddydd Gwener 6 Chwefror 2026 ar yr hwyraf.

  Cyflwyno’ch cais


Rheolwr Digwyddiadau

  • Lleoliad: Techniquest, Bae Caerdydd
  • Swydd: Amser Llawn — gan gynnwys ar benwythnosau a gyda’r nos yn ôl y gofyn yn dibynnu ar anghenion gweithredol
  • Cyflog: £30,000 y flwyddyn
  • Dyddiad cae: Dydd Sul 15 Chwefror 2026
  • Dyddiad cyfweliad: Dydd Mawrth 24 Chwefror 2026

Ydych chi’n unigolyn proffesiynol a phrofiadol ym maes digwyddiadau sy’n chwilio am gyfle cyffrous mewn sefydliad deinamig sy’n canolbwyntio ar ymwelwyr?

Canolfan darganfod gwyddoniaeth ac elusen flaenllaw yng nghanol Bae Caerdydd yw Techniquest, ac rydyn ni’n chwilio am Reolwr Digwyddiadau uchelgeisiol a threfnus sydd â meddwl masnachol i arwain y gwaith o gynnal ein rhaglen digwyddiadau corfforaethol a chyhoeddus.

O gynadleddau a digwyddiadau corfforaethol proffil uchel i’n nosweithiau hwyr poblogaidd i oedolion yn unig, mae hon yn swydd hanfodol o ran gyrru strategaeth fasnachol Techniquest, ehangu effaith ein gwaith a gwella profiad yr ymwelwyr.

Mae ein digwyddiadau yn rhan bwysig o sut rydyn ni’n ymgysylltu â chynulleidfaoedd, yn creu incwm ac yn arddangos Techniquest fel canolfan flaenllaw. Mae hwn yn gyfle gwych i siapio a datblygu portffolio o ddigwyddiadau amrywiol mewn sefydliad diwylliannol sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol.

Beth mae’r swydd yn ei olygu:

  • Cymryd cyfrifoldeb o’r dechrau i’r diwedd am gynllunio, hyrwyddo a chynnal digwyddiadau corfforaethol a digwyddiadau lle mae angen tocynnau yn Techniquest.
  • Datblygu a chynyddu busnes corfforaethol drwy weithgarwch gwerthu rhagweithiol, ymgysylltu â rhanddeiliaid, rhwydweithio ac adeiladu perthnasoedd.
  • Ymdrin â phob agwedd ar reoli digwyddiadau gan gynnwys trafod gyda chleientiaid, dyfynbrisiau, contractau, amserlennu a materion ymarferol.
  • Goruchwylio’r calendr digwyddiadau a defnyddio systemau rheoli digwyddiadau i sicrhau bod cofnodion cywir yn cael eu cadw ac i sicrhau cydymffurfiaeth â GDPR.
  • Rheoli cyllidebau digwyddiadau, monitro incwm a chostau, a sicrhau bod pob digwyddiad yn hyfyw yn ariannol ac yn cyrraedd targedau incwm y cytunwyd arnynt.
  • Arwain y gwaith ymarferol o gynnal digwyddiadau, gan gynnwys gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau yn ôl y gofyn.
  • Gweithio’n agos gyda’r timau Marchnata, Cyfleusterau, Gweithrediadau a chyflenwyr allanol (gan gynnwys arlwyo, clyweledol a staffio) i sicrhau gwasanaeth di-dor.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth lawn â pholisïau sefydliadol, diogelu, a Iechyd a Diogelwch, yn holl weithgarwch ein digwyddiadau.
  • Gweithredu fel Rheolwr ar Ddyletswydd yn ôl y gofyn, gan gefnogi gyda chyflenwi gweithredol ehangach.

Rydyn ni’n chwilio am rywun:

  • sydd â phrofiad o gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau corfforaethol a chyhoeddus mewn amgylchedd masnachol neu sy’n canolbwyntio ar ymwelwyr.
  • sy’n hyderus yn meithrin ac yn cynnal perthnasoedd cryf gyda chleientiaid ac yn trosi posibiliadau gwerthu yn fusnes pendant.
  • sy’n dod â sgiliau trefnu, rheoli prosiectau ac amldasgio cryf mewn amgylchedd lle mae pethau’n symud yn gyflym.
  • sy’n arddangos llythrennedd ariannol ac sydd â phrofiad o reoli cyllidebau digwyddiadau a thargedau refeniw.
  • sydd â phrofiad o gydlynu contractwyr a chyflenwyr gan gynnwys darparwyr clyweledol ac arlwyo.
  • sydd â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, gyda safon uchel o gyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar.
  • sydd â dealltwriaeth gref o faterion Iechyd a Diogelwch, diogelu a dyletswydd gofal mewn amgylchedd byw.
  • sy’n ddigyffro, yn hyblyg ac yn effeithiol o dan bwysau mewn amgylchedd ymarferol byw.
  • sy’n hyderus o ran technoleg gwybodaeth, gan gynnwys defnyddio Microsoft Office a systemau rheoli digwyddiadau.
  • Mae sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol ond ddim yn hanfodol.
  • Mae trwydded bersonol a thrwydded yrru yn ddymunol.

Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig

Yn Techniquest, byddwch yn ymuno â thîm angerddol a chefnogol sy’n gweithio er mwyn ysbrydoli chwilfrydedd a gwneud gwyddoniaeth yn hygyrch i bawb.

Rydyn ni’n cynnig:

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol + 8 gŵyl banc
  • Cynllun tâl salwch
  • Budd-dal marw yn y swydd
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr
  • Gostyngiad yn y caffi sydd ar y safle
  • Hyfforddiant parhaus a chyfleoedd DPP
  • Cynllun pensiwn
  • Cynllun beicio i’r gwaith
  • Parcio am ddim ar y safle
  • Tocynnau am ddim i Techniquest a digwyddiadau arbennig

I wneud cais:

Llwythwch y disgrifiad swydd llawn a manyleb yr unigolyn i lawr isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â ni drwy ein cyfeiriad e-bost.

  Disgrifiad o’r Swydd

Os hoffech chi wneud cais, llenwch ein ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal o dan.

  Ffurflen cais   Ffurflen cyfleoedd cyfartal   Cyflwyno’ch cais