Nid unigolion yn unig sy’n buddio o berthynas glos gyda Techniquest — mae pecynnau ar gael i Gefnogwyr Corfforaethol hefyd.

Gallwch gefnogi Techniquest drwy dreulio fwy o amser gyda ni a dod i’n ’nabod yn well.
Pan fo arian yn dynn, gwyddwn mor anodd yw hi i wario arian ar docynnau yn rheolaidd. Dyna pam fod ein tocyn adegau tawel mor wych. Mae’r tocyn yn caniatáu i chi ddod yn ôl i edrych o gwmpas y brif arddangosfa cynifer o weithiau a fynnwch mewn cyfnod o 12 mis o brynu’r tocyn. Mae’r tocyn yn gymwys ar unrhyw benwythnos y tu allan i wyliau ysgol lleol, ac ar unrhyw ddiwrnod wythnos yn ystod y tymor ysgol.
Mae’r adegau hyn fel arfer yn dawelach, felly mae’n amser gwych i ymweld â ni os oes well gennych chi osgoi’r dorf yn ystod y gwyliau ysgol.
| Gyda rhodd | Heb rodd | |
|---|---|---|
| Oedolyn 16+ oed | £38.00 | £34.54 |
| Plentyn 3-15 oed | £33.00 | £30.00 |
| Teulu Hyd at 5 person, uchafswm o 2 oedolyn (16+) | £134.00 | £121.81 |
| Consesiwn | £35.00 | £31.81 |
Gallwch ddefnyddio’ch tocyn adegau tawel ar-lein unrhyw bryd — ond cofiwch, bydd angen i chi barhau i archebu eich ymweliadau cryn dipyn ymlaen llaw gan fod mynediad yn dal yn ddarostyngedig i argaeledd!
Dim ond y defnyddiwr a enwir gall ddefnyddio pob tocyn a brynir ac ni ddylid ei rannu ag eraill. Dim ond un tocyn gall cael ei archebu ar unrhyw un dydd.
2025: 25 Hydref–2 Tachwedd, 20–31 Rhagfyr
2026: 1–4 Ionawr, 14–22 Chwefror, 28 Mawrth–12 Ebrill, 23–31 Mai, 18 Gorffennaf–31 Awst, 24 Hydref–1 Tachwedd, 19–31 Rhagfyr
2027: 1–3 Ionawr
Byddem yn ychwanegu rhagor o ddyddiadau gwaharddiad 2027 yn fuan.