Mae partïon Techniquest yn para 3 awr ac mae lle i hyd at 24 o blant (3–15 oed)
| Gwestai | Pris |
| Plentyn (3–15) | £18 |
| Plentyn (0–2) | Am ddim |
| Oedolion yn mynychu gyda’r plant | 1 oedolyn am ddim gyda phob 6 plentyn 3–15 oed, a phob oedolyn ychwanegol yn £8.50+ yr un† |
Beth amdani? Os ydych chi’n hoffi’r syniad o barti yn Techniquest, yna cysylltwch isod i ddarganfod mwy am gynnal parti pen-blwydd yn ein canolfan gwyddoniaeth anhygoel!
Ymholi am gynnal parti pen-blwydd

Gwybodaeth arall
- Mae’n rhaid i un oedolyn fod yn bresennol drwy gydol y parti. Gallwn gynnwys oedolion ychwanegol yn y 12 person taledig, ond nodwch na fydd bwyd yn cael ei gynnwys i oedolion.
- Mae cinio i bob plentyn, fel rhan o’r pris. Mae hyn yn cynnwys brechdan, creision a diod gyda dim terfyn ar ddiod squash yn yr ardal ginio.
- Yn anffodus ni chaniateir i chi ddod â bwyd eich hunan (yn cynnwys cacen) i bartïon Techniquest.
† Nid yw oedolion ychwanegol yn cael mynediad awtomatig i sioe wyddoniaeth fyw, ond mae modd ychwanegu hyn i’ch archeb am £2.50 fesul pob person ychwanegol.