Techniquest

Defnyddiwch xTag i lawrlwytho a rhannu cynnwys o’ch ymweliad i Techniquest.


Sylwch

Rydym ar hyn o bryd yn delio â rhai problemau technegol gyda’n system xTag, felly ni fyddwch yn gallu prynu’r eitem hon ymlaen llaw gyda’ch tocynnau mynediad.

Os ydych chi’n ymweld yn fuan, gwiriwch wrth y ddesg flaen pan fyddwch chi’n cyrraedd a bydd ein tîm yn rhoi gwybod i chi os yw’n gweithio eto!


Mae system xTag yn cynnig lle i chi gadw lluniau, fideos a gwybodaeth o’n harddangosion newydd, er mwyn eu rhannu gyda ffrindiau a theulu drwy gyfryngau cymdeithasol.

Sut i ddefnyddio xTag

Prynwch gerdyn xTag yr un pryd a fyddwch yn prynu tocyn mynediad ar ein gwefan, neu gofynnwch am un pan fyddwch yn cyrraedd. Gallwch gofrestru am gyfrif a chofrestru eich cerdyn unigryw wrth un o’r terfynellau xTag sydd i’w gweld ar y ddau lawr. Cadwch lygad allan am arwyddion ar y waliau, neu gofynnwch i aelod o staff. Byddwn yn hapus i’ch tywys at derfynell xTag.

Gallwch gasglu gwybodaeth o dros 50 o arddangosion, er mwyn parhau’r profiad gartref. Mae modd tynnu lluniau a chasglu fideos o ambell i arddangosyn hefyd. Cadwch lygad allan am sganwyr wrth ochr y sgriniau gwybodaeth wrth i chi grwydro o amgylch y ganolfan, a chofiwch sganio’ch cerdyn wrth yr arddangosion – mae fel sganio cod bar mewn siop.

Ar ôl gadael, gallwch weld popeth a gasglwyd yn ystod eich ymweliad. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud ydi defnyddio’r bocs mewngofnodi ar y dudalen hon gyda’r un manylion a ddefnyddioch i gofrestru gyda ni. Cadwch eich cerdyn yn ddiogel fel y gallwch ei ddefnyddio ar eich ymweliad nesaf!

Os gewch chi unrhyw anhawster yn lawrlwytho eich gwybodaeth, cofiwch roi gwybod i ni.