Addysg
10am–5pm
5+ Oed
Sioeau a gweithdai ar gael

Gall Addysgwyr yn y Cartref ddod a’u plant i Techniquest yn ystod y tymor ysgol am bris is.

Mae dau lawr o arddangosion ymarferol ar gael i gyfoethogi eu dysgu, yn ogystal â gweithgareddau ychwanegol opsiynol sy’n amrywio o fis i fis.


 

Gweithgareddau Diwrnod Addysgwyr yn y Cartref

Mae Sioeau Gwyddoniaeth Byw a gweithdai labordy addysgol ar gael yn ystod diwrnodau addysgwyr yn y cartref am gost ychwanegol bychan (mae llefydd yn gyfyngedig).

Ar ddyddiau pan fydd mwy nag un Sioe Wyddoniaeth Fyw yn y Theatr Wyddoniaeth, mae mynediad i un sioe yn caniatáu mynediad am ddim i’r sioe arall. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud ydi ychwanegu’r ddwy i’ch basged a byddwn yn sicrhau bod y gostyngiad yn cael ei ychwanegu cyn i chi dalu. Nodwch mai gostyngiad ar gyfer y Sioeau Gwyddoniaeth Byw ydi hwn yn unig, ac nid yw’n gymwys ar gyfer y gweithdai Lab na’r Planetariwm.

 

Dydd Mercher 11 Chwefror 2026

Tu Hwnt i’r Byd
Sioe wyddoniaeth fyw
  BOGOF gyda Elfennol

7–11 oed

Elfennol
Sioe wyddoniaeth fyw
  BOGOF gyda Tu Hwnt i’r Byd

11–14 oed

Star Tours
Sioe Planetariwm

5–7 oed 7–11 oed

Little Bear
Ffilm Planetariwm a thaith sêr

5–7 oed

Aer a Ffagliad
Gweithdy Labordy — O leiaf 7+ oed

7–11 oed

 

Dydd Mercher 11 Mawrth 2026

Chwedlau Tylwyth Teg
Sioe wyddoniaeth fyw
  BOGOF gyda Cymru, STEM a’r Byd

5–7 Oed

Cymru, STEM a’r Byd
Sioe wyddoniaeth fyw
  BOGOF gyda Chwedlau Tylwyth Teg

7–11 Oed

Star Tours
Sioe Planetariwm

5–7 Oed 7–11 Oed

Little Bear
Ffilm Planetariwm a thaith seren

5–7 Oed

Grymoedd Gwych
Gweithdy Labordy — O leiaf 7+ oed

7–11 Oed


 

Mynediad i ddwirnod addysgwyr yn y cartref

[table id=93 /]* Mae Techniquest yn elusen gofrestredig ac mae tocyn yn cynnwys rhodd wirfoddol o oddeutu 10%. Mae hyn yn galluogi Techniquest i hawlio Rhodd Cymorth ar 100% o bris mynediad. Mae pob ceiniog yn mynd tuag at gefnogi Techniquest a’i nod o sicrhau bod gwyddoniaeth yn agored i bawb.

Tocyn oedolyn, Addysgwr yn y Cartref


Rydyn ni am ei gwneud hi’n haws i deuluoedd sy’n addysgu gartref i ymweld â ni yn fwy aml.

Dyna pam ein bod ni’n cyflwyno tocyn oedolyn Addysgwr yn y Cartref — a’r peth gorau amdano? Mae’n costio’r un faint â thocyn oedolyn arferol.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw prynu tocyn oedolyn yn mynychu gyda phlentyn fel arfer ar eich ymweliad cyntaf, yna fe wnawn ni ychwanegu eich enw at ein cynllun tocyn blwyddyn, ac ar ôl hynny byddwch ond yn talu am docynnau eich plentyn pan yn ymweld â ni!


Mae’r tocyn oedolyn Addysgwr yn y Cartref yn ddilys am 12 mis o ddyddiad eich ymweliad cyntaf.
Nodwch fod y tocyn ond yn ddilys yn ystod sesiynau Addysgwyr yn y Cartref, ac am fynediad yn unig.

  Archebu tocynnau

 

When is this on?

Un dydd Mercher y mis yn ystod y tymor ysgol

Chwefror 2015
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Dydd Sul
Dydd L
Dydd M
Dydd M
Dydd I
Dydd G
Dydd S
Dydd S
26
27
28
29
30
31
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
1

available dates

Other activities at Techniquest