Paratowch am sioe wyddoniaeth fyw llawn egni sy’n cynnwys ffrwydradau ffyrnig, halen metel tanllyd, a newidiadau lliw anhygoel.
Byddwn yn creu adweithiau cemegol pwerus, anfon balŵns hydrogen i’r awyr, a rhyddhau cemegion sy’n edrych fel hud (heb fod yn hud).
Dydy gwyddoniaeth erioed wedi edrych mor rhyfeddol!

Nodwch mai Saesneg yw iaith y sioe hon.
Wedi’i anelu at blant 5+ mlwydd oed ond mae pawb yn croeso. Mae angen i blant o dan 16 cael arolygiad oedolyn.
Mae yna ffrwydrad swnllyd tuag at ddiwedd y sioe. Bydd pawb yn derbyn amddiffynwyr clust cyn i’r sioe dechrau, a bydd digon o rybudd cyn y ffrwydrad.
Mae i ddwy gadair olwyn. Mae ein Theatr Wyddoniaeth yn ardal caeedig, ond gallwch chi adael os oes angen. Mae amddiffynwyr clust ar gael hefyd. Mae bagiau synhwyraidd ar gael o’r desg tocynnau (blaen-dâl ad-daliadol o £20, yn dibynnu ar argaeledd).
Mae ein sioeau wyddoniaeth fyw ar gael am ddim ac rydym yn gweithio ar sail y gyntaf i’r felin ar y dydd. Eisiau sicrhau dy le? Gallwch archebu lleoedd mynediad gwarantedig am ddim ond £1 y person (yn amodol ar argaeledd a chapasiti).
Penwythnosau a gwyliau ysgol tan 17 Mai
dyddiadau ar gael