Ar Ddiwrnodau Plant Bach mae’r arddangosfeydd wedi’u neilltuo i blant bach, er mwyn iddynt gael mwynhau mewn awyrgylch ddiogel.
Yn ystod pob Diwrnod Plant Bach bydd nifer o weithgareddau wedi’u teilwra’n arbennig i’ch plant ifanc. Mae rhai yn gynwysedig ym mhris eich tocyn ac mae ambell i un yn costio’n ychwanegol.
Rhan o bob Diwrnod Plant Bach
Yn gynwysedig ym mhris eich tocyn
Addurnwch eich hun gyda throsluniau lliwgar, a dangoswch y patrymau gwych i’ch ffrindiau bach.
Rhan o bob Diwrnod Plant Bach
Yn gynwysedig ym mhris eich tocyn
Ydy’r plantos angen hoe fach o’r arddangosfeydd? Beth am ymlacio a mwynhau bod yn greadigol?
Rhan o bob Diwrnod Plant Bach
Yn gynwysedig ym mhris eich tocyn
Beth am swatio yn ein cornel ddarllen a mwynhau casgliad hyfryd o lyfrau Cymraeg a Saesneg a storïau rhyngweithiol.
Yn ychwanegol i reini, dyma’r gweithgareddau eraill sydd ar gael ar bob Diwrnod Plant Bach:
Dydy Rusty the Robot ddim yn hoffi’r ffordd mae’n swnio, ond mae Belle, Hoot, Twango a Boom-bot yn ymuno gyda fe i’w gefnogi i werthfawrogi bod ei wahaniaethau yw’r pethau sydd yn ei wneud yn unigryw.
Ymunwch â ni ar daith y synhwyrau rhyngweithiol, wrth i ni cwrdd â ffrindiau Rusty, trio creu swniau robotaidd ein hun a chreu offeryn cerddorol i gymryd cartref.
£3.50 y plentyn
Dosbarth dawns a datblygiad unigryw am fabanod, plant bach a rhieni wedi’i ddatblygu gan ffisiotherapydd pediatrig ac athro dawns.
Mae’r sesiynau rhyngweithiol a llawn hwyl hyn yn ffocysi ar ddatblygu sgiliau modur plant bach trwy’r byd o ddawns a cherddoriaeth, tra hefyd cyflwyno chwarae synhwyrol.
Mae’r sesiynau hyn wedi’i gynnwys ym mhris eich mynediad i’r Diwrnod Plant Bach ond mae’n rhaid archebu eich lleoedd ymlaen llaw.
Wedi’i gynnwys ym mris mynediad.
Math o docyn | Gyda rhodd* | Safonol |
---|---|---|
Plant bach 0–2 oed | Am ddim | Am ddim |
Oedolyn 16+ oed | £14.00 | £12.72 |
Plentyn 3–15 oed | £12.00 | £10.90 |
Consesiwn Yn gymwys i: Bobl hŷn (65+); ymwelwyr sydd ag anabledd; myfyrwyr sydd â cherdyn NUS dilys; derbynyddion Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith. Mae’n bosib y byddwn yn gofyn i weld tystiolaeth adnabod. | £12.50 | £11.36 |
Gofalwr hanfodol Bydd angen i chi ddod â thystiolaeth adnabod gyda chi fel y gallwn ni brosesu eich tocyn mynediad. 1 gofalwr hanfodol fesul tocyn consesiwn. | Am ddim | Am ddim |
Teulu Hyd at 5 person, uchafswm o 2 oedolyn (16+) | £48.00 | £43.63 |
* Mae Techniquest yn elusen gofrestredig ac mae tocyn yn cynnwys rhodd wirfoddol o oddeutu 10%. Mae hyn yn galluogi Techniquest i hawlio Rhodd Cymorth ar 100% o bris mynediad. Mae pob ceiniog yn mynd tuag at gefnogi Techniquest a’i nod o sicrhau bod gwyddoniaeth yn agored i bawb.
Un dydd Gwener y mis yn ystod y tymor ysgol
dyddiadau ar gael