Ar 3 Rhagfyr, teithiodd dros 40 o ddisgyblion Mwy Galluog a Thalentog (MAT) o wyth ysgol i Techniquest ar gyfer gweithdy mathemateg, a gynhaliwyd gan y mathemategydd Alison Eves a’r astroffisegydd Dr Stuart Eves o’r Sefydliad Brenhinol.
Yn ystod y dosbarth, cyflynwyd y grŵp — a oedd yn cynnwys plant blwyddyn 5 a 6 — i egwyddorion mathemategol mwy datblygedig nag yr oeddent yn ei dysgu yn yr ysgol, fel posau tebygolrwydd a pi (a’i gymwysiadau).
Dywedodd Catrin Evans, pennaeth Ysgol Gymraeg Cwmbrân: “Mae’n gyfle gwych i’r plant ddysgu am bwnc sydd o ddiddordeb mawr iddynt mewn ffordd fwy heriol.
“Dywedodd un o fy nisgyblion eu bod yn hoffi cael ei herio oherwydd ei fod yn ei orfodi i feddwl hyd yn oed yn galetach am ddatrys problem arbennig.
“Maen nhw hefyd yn dysgu gweithio gyda phlant o ysgolion eraill mewn amgylchedd fel hwn, a fydd yn werthfawr yn y byd go iawn.”
Dysgodd y plant fod pi yn ddilyniant gwirioneddol ar hap: yn gyntaf, rhoddwyd tudalen i bob un ohonynt gyda’r 2000 digid cyntaf o pi a dywedwyd wrthynt i nodi unrhyw ddilyniannau diddorol a ddaethant o hyd iddynt.

Yn dilyn hynny, cawsant ddefnyddio mypiday.com, gwefan a ddangosodd iddynt y pellter y bu’n rhaid iddynt fynd cyn i’w penblwyddi yn ymddangos yn y dilyniant — roedd y penblwydd pellaf yn yr ystafell fwy na chwe miliwn o ddigidau allan!
I orffen, cyflwynwyd y dosbarth i William Jones, y mathemategydd Cymreig a oedd y cyntaf i ddefnyddio’r symbol Groegaidd i gynrychioli pi, a ‘Buffon’s needle’, sef problem tebygolrwydd enwog sy’n cynnwys pi yn ei datrysiad.
Dywedodd Alison Eves: “Yn ein diwylliant, nid ydym yn dathlu mathemateg yn yr un ffordd ag yr ydym yn dathlu rhai agweddau eraill o ddysgu.

“Mae pobl yn meddwl am fathemateg fel pethau rydych chi’n eu dysgu yn yr ystafell dosbarth, rhywbeth trylwyr iawn — set o reolau y mae’n rhaid i chi eu dysgu — ond rydych chi’n colli prydferthwch a phwysigrwydd y pwnc fel hyn.
“Rwy’n credu bod dosbarthiadau fel hyn yn ceisio rhoi cip olwg i bobl ifanc ar y prydferthwch hwnnw, ac ar ddyfnder a lled pethau nad yw pobl yn sylweddoli eu bod yn fathemategol.”
Rydym ni eisiau rhoi diolch i’r Sefydliad Brenhinol, Dr Stuart Eves ac Alison Eves am gyflwyno’r dosbarth, a’r wyth ysgol a gymerodd ran.