Techniquest

The KLA Lab

Mae’r amhosib wedi digwydd: Mae allwedd hud Siôn Corn wedi diflannu i’r gwynt!

Rydyn ni’n tybio bod coblyn direidus wedi’i throi’n gnaf, ac mae e lan i chi i wisgo’ch cot labordy a chwarae ditectif.

Dewch i ddatgelu cyfrinachau gwyddoniaeth fforensig wrth i chi ddadorchuddio cliwiau. Byddwch yn plymio mewn i’r byd datrys-trosedd trwy edrych am olion bysedd, dadansoddi ffibrau dillad, a datgelu dirgelion inc gan ddefnyddio cromatograffaeth.

A wnewch chi dderbyn y genhadaeth i ddatrys yr achos, dal y troseddwr dirgel ac achub y Nadolig?

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


Cyngor oedran: 7+

Dydy’r gweithgaredd hwn ddim yn addas i blant dan 7 oed. Mae pob plentyn sy’n archebu tocyn angen cael eu cyfeilio gan o leiaf 1 oedolyn (dydy oedolion ddim yn talu). Bydd ‘na dim mynediad i blant dan 7.

Gwybodaeth ychwanegol

Cymerwch eich disgyblion i brofi bod yn wyddonwyr go iawn yn ein Labordy KLA newydd sbon, wedi’i gydgyfnerthu gan y Sefydliad Garfield Weston.

  • Hyd y sioe: 45 munud