Ym mis Gorffennaf, profodd cannoedd o ymwelwyr y penwythnos ‘Puppet Takeover’ am ddim fel rhan o’r Haf o Ddyfais Techniquest, wedi’i ddylunio a pherfformio gan ddisgyblion o’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Yn ogystal ag arddangos eu creadigaethau o gwmpas y llawr arddangosion, sgwennodd y disgyblion Dyluniad ar gyfer Perfformiad y CBCDC dwy sioe pypedwaith arbennig, ‘Tîm Bywyd’ a ‘Tîm Gofod’, a oedd ar gael am ddim ar dros y penwythnos.
Yn ymestyn i bedwar diwrnod yn gyfan, wnaeth disgyblion ysgol gynradd ar draws De Cymru dod i ryngweithio â’r pypedau o’r 2–3 Gorffennaf, tra roedd y prosiect ar agor i’r cyhoedd o’r 5–6.
Dwedodd Elowen Packer, un o’r disgyblion wnaeth weithio ar y pypedwaith wych ar y llawr arddangosion: “Wnaethon ni gael rhyngweithiadau ardderchog gyda’r plant yn gynharach yn yr wythnos.

“Roedd un plentyn yn cael diddordeb yn y celfyddydau ac oedd hi’n cymryd diddordeb mawr yn y pypedwaith; roedd hi’n bleser i ryngweithio gyda’r plant.”
Roedd ‘Tîm Bywyd’ yn stori galonogol oedd yn dilyn bywyd llawn dyn, o’i enedigaeth i oedran teg, wrth iddo gasglu cneciau a chreithiau, a sut roedd y doctoriaid Tîm Bywyd yn ei drwsio.
Roedd ‘Tîm Gofod’, ar y llaw arall, yn cymryd lle ar yr Orsaf Ofod Rhyngwladol ac yn manylu’r arferion tîm o ofodwyr ar long.
Ymhlith y creadigaethau chwilfrydol a oedd yn poblogi’n llawr arddangosion oedd pypedau yn cynrychioli ffenomenau gofodol fel tyllau du a nifylau, rhyfeddodau naturiol fel riffiau cwrel a mamaliaid ehedol, a’r byd planhigion syfrdanol.

Dwedodd Mia Pinnington, pwy wnaeth weithio ar y sioe ‘Tîm Bywyd’: “Mae gweithio ar y llawr arddangosion ‘di bod yn profiad ddiddorol iawn — mae’r plant wedi bod yn wych. Mae’n neis i gael pobl nad sydd yn weithio yn y Coleg i weld dy waith, hefyd.”
Rydyn ni eisiau dweud diolch o galon i’r CBCDC a’i bypedwyr talentog i ddod â’r Puppet Takeover i fyw yn Techniquest a darparu profiad arbennig am ddim i’n hymwelwyr.
Darllenwch mwy am ein partneriaeth ar y prosiect ar wefan y CBCDC yma.