Techniquest

School Travel Awards 2024 — Winner — Best Venue for STEM LearningWales STEM Awards — Finalists 2025Wales STEM Awards — Winner 2023 — STEM Educational Programme of the Year (not-for-profit)Mae gennym ni dros 100 o arddangosion ymarferol i gyfoethogi profiadau dysgu plant a phobl ifanc o bob oed. Trefnwch daith fythgofiadwy.

Pa un ai’n dysgu pethau newydd neu’n atgyfnerthu’r hyn sydd wedi’i ddysgu yn y dosbarth, daw’r wyddoniaeth yn fyw dan flaenau eich bysedd yn Techniquest.

  Ffurflen ymholi am daith ysgol

“Diwrnod gorau ein bywydau ni!”

Disgyblion o Ysgol Gynradd Pen-y-bont

Beth am ychwanegu opsiynau megis sioe wyddoniaeth fyw, taith o dan y sêr yn y planetariwm neu brofiad ymarferol yn y Lab KLA i gwblhau eich ymweliad?

Mae pob sioe wedi’i theilwra yn unol â’r cwricwlwm ac wedi’i thargedu ar gyfer Camau Cynnydd a Chyfnodau Allweddol gwahanol.

Pan fyddwch yn cyrraedd ein hadeilad, byddwch yn cael eich croesau gan staff Techniquest a fydd yn esbonio trefniadau eich ymweliad ac yn sicrhau bod pob dim yn rhedeg yn esmwyth. Gall athrawon ganolbwyntio ar y disgyblion a’r profiad dysgu.

Pryd gallwn ni ymweld â Techniquest?

Mae ymweliadau ysgol ar gael bob dydd Mercher a dydd Iau a bron bob dydd Gwener yn ystod y tymor ysgol.

Gallwch ddewis o un o’r slotiau amser canlynol, yn ddibynnol ar argaeledd:

Math o Ymweliad Opsiwn 1 Opsiwn 2 Opsiwn 3
Gyda Sioe Wyddoniaeth Fyw 10:15am – 1:00pm 10:45am – 1:30pm 11:00am – 2:00pm
Gyda sioe Blanetariwm 10:00am – 12:45pm 10:30am – 1:15pm 11:00am – 1:45pm
Gyda gweithdy Lab KLA 10:45am – 1:30pm 11:00am – 1:45pm
Arddangosfeydd yn unig Gwahanol amseroedd ar gael, yn ddibynnol ar argaeledd


The Great British School Trip

Rydyn ni’n rhan o ‘The Great British School Trip’, sydd wedi’i gefnogi gan Hyundai! Oes angen cymorth ariannol neu adnoddau addysgol ar eich ysgol chi, ar gyfer taith ysgol? Darganfyddwch fwy o fanylion a sut i wneud cais.

Sioeau a Gweithdai

Science Theatre

Beth am ychwanegu sioe wyddoniaeth anhygoel, i gyfoethogi profiad eich disgyblion?


  Tymor yr Hydref 2025

Newid Hinsawdd
13 Tachwedd 2025

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Ymarfer Mathemateg
3–4 Rhagfyr 2025

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Credwch yn y Corach
11–12, 17–18 Rhagfyr 2025

Cam Cynnydd 2 Cyfnod Sylfaenol
Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


  Tymor y Gwanwyn 2026

Sioe’r Corff Dynol
15, 21–23 Ionawr 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Popeth Amdanaf I
28–30 Ionawr 2026

Cam Cynnydd 2 Cyfnod Sylfaenol

Elfennol
4–5, 12–13 Chwefror 2026

Cam Cynnydd 4 Cyfnod Allweddol 3

Sioe’r Grymoedd
25–27 Chwefror 2026
4–5 Mawrth 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Cymru, STEM a’r Byd
12–13, 18–20 Mawrth 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Yucky You!
25–27 Mawrth 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


Mae sioeau gwyddoniaeth yn costio £2.50 ychwanegol fesul bob disgybl.

Planetarium

  Taflunydd 4K

Camwch i mewn i Blanetariwm ddigidol Techniquest a dewch am dro drwy’r Bydysawd — mae sêr, planedau a galaethau diri yn aros amdanoch chi!

Bydd disgyblion yn dysgu sut i adnabod sêr, planedau a chytserau y gellir eu gweld o’r Ddaear, ac yn mentro tu hwnt i’r Llwybr Llaethog i weld rhyfeddodau’r bydysawd. Gall gyflwynwyr ddangos y sêr a’r planedau’n agos, a rhannu lluniau o graterau lleuadau pell a ffenomenau eraill. Mae’r cyfan yn helpu atgyfnerthu profiadau dysgu’r disgyblion ac yn annog angerdd am gosmoleg a seryddiaeth.

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


Mae sioeau Planetariwm yn costio £2.50 ychwanegol fesul bob disgybl.

The KLA Lab

Newydd — ein Lab KLA newydd sbon, wedi’i ariannu gan y Sefydliad Garfield Weston a Sefydliad KLA.

Dewch â’ch disgyblion i brofi beth yw bod yn wyddonwr go iawn! Mae pob gweithdy’n para 45 munud. Dewiswch un o’r gweithdy sydd ar gael.


  Tymor yr Hydref 2025

Hud a Lledrith mewn Gwyddoniaeth
22–24 Hydref 2025
6, 13 Tachwedd 2025

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Peirianwyr Bychan
20–21, 26–28 Tachwedd 2025
3–4 Rhagfyr 2025

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Criw Ysbïo Siôn Corn
11–12, 17–18 Rhagfyr 2025

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


  Tymor y Gwanwyn 2026

Datgodio DNA
15, 21–23, 28–30 Ionawr 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Aer a Ffagliad
4–5, 12–13 Chwefror 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Grymoedd Gwych
25–27 Chwefror 2026
4–5, 12–13, 18–20 Mawrth 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Didrefn Lliwgar
25–27 Mawrth 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


Mae gweithdy Lab yn costio £2.50 ychwanegol fesul bob disgybl.

Faint mae’n costio?

Mae mynediad i’r arddangosfa, sydd bellach yn cynnwys dros 100 o arddangosion ymarferol yn £5 y plentyn.

Mae gweithgareddau ychwanegol fel a ganlyn:

  • Theatr Wyddoniaeth: £2.50 y disgybl
  • Planetariwm: £2.50 y disgybl
  • Y Lab KLA: £2.50 y disgybl

Mynediad am ddim i athrawon sy’n mynychu gyda disgyblion.

Sut i archebu

Cwblhewch ein ffurflen ymholi a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

  ffurflen ymholi am daith ysgol