Techniquest

Gan weithio mewn partneriaeth â Glasgow Science Centre, mae Techniquest wedi lansio Learning Lab Cymru, a fydd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr.

O helpu plant i ddod o hyd i — a datblygu — angerdd am STEM, i ddarganfod y gwyddonydd oddi mewn, mae’r prosiect wedi ei wneud yn bosibl trwy gydymdrech llawer o sefydliadau eraill, gan gynnwys: CADW, Ysgol Feddygaeth Caerdydd, AstroCymru a Space Forge, yr Edina Trust a’r Fforwm Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Mae’r cynllun yn defnyddio dull ‘hybrid’ sy’n cynnwys dysgu ar-lein yn yr ystafell ddosbarth a gartref, yn ogystal ag ymweliad personol i Techniquest. Yma maen nhw’n cael y cyfle i archwilio gwyddoniaeth ymerferol trwy rhyngweithio â dros 100 o arddangosion ymarferol, ynghyd â’r cyfle i wylio sioe wyddoniaeth fyw wedi’i theilwra’n arbennig — neu, yn achos y rhaglen Gofod, yr opsiwn i brofi Star Tour yn y Planetariwm.

Yn cynnwys tair rhaglen ddysgu chwech wythnos bwrpasol ar gyfer Ysgolion Cynradd, mae’r cysyniad yn rhoi llwyfan i ddysgwyr rhwng 7 ac 11 oed (neu Camau Cynnydd 2 a 3) archwilio gweithgareddau ymarferol, cyfarfod â gweithwyr proffesiynol ysbrydoledig a chydweithio i rannu syniadau. Mae cyfuniad o gynlluniau gwersi, fideos a rhyngweithio ag arbenigwyr yn galluogi arthrawon i ddod o hyd i gymorth wrth gyflwyno profiad dysgu STEM o ansawdd da i’w disgyblion.

Mae’r themâu sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer cyfranogwyr Learning Lab Cymru wedi’u nodi isod ac mae rhagor o fanylion am y sioeau wyddoniaeth fyw a’r Star Tours a gyflwynir fel rhan o’r rhaglen i’w gweld trwy’r dolenni hyn:

I gael rhagor o fanylion am gymryd rhan yn un o raglenni Learning Lab Cymru, cysylltwch ag Andrea Meyrick, Pennaeth Addysg Techniquest.