School Travel Awards 2024 — Winner — Best Venue for STEM LearningWales STEM Awards — Finalists 2025Wales STEM Awards — Winner 2023 — STEM Educational Programme of the Year (not-for-profit)Mae gennym ni dros 100 o arddangosion ymarferol i gyfoethogi profiadau dysgu plant a phobl ifanc o bob oed. Trefnwch daith fythgofiadwy.

Pa un ai’n dysgu pethau newydd neu’n atgyfnerthu’r hyn sydd wedi’i ddysgu yn y dosbarth, daw’r wyddoniaeth yn fyw dan flaenau eich bysedd yn Techniquest.

  Ffurflen ymholi am daith ysgol

“Diwrnod gorau ein bywydau ni!”

Disgyblion o Ysgol Gynradd Pen-y-bont

Beth am ychwanegu opsiynau megis sioe wyddoniaeth fyw, taith o dan y sêr yn y planetariwm neu brofiad ymarferol yn y Lab KLA i gwblhau eich ymweliad?

Mae pob sioe wedi’i theilwra yn unol â’r cwricwlwm ac wedi’i thargedu ar gyfer Camau Cynnydd a Chyfnodau Allweddol gwahanol.

Pan fyddwch yn cyrraedd ein hadeilad, byddwch yn cael eich croesau gan staff Techniquest a fydd yn esbonio trefniadau eich ymweliad ac yn sicrhau bod pob dim yn rhedeg yn esmwyth. Gall athrawon ganolbwyntio ar y disgyblion a’r profiad dysgu.

Pryd gallwn ni ymweld â Techniquest?

Mae ymweliadau ysgol ar gael bob dydd Mercher a dydd Iau a bron bob dydd Gwener yn ystod y tymor ysgol.

Gallwch ddewis o un o’r slotiau amser canlynol, yn ddibynnol ar argaeledd:

Math o YmweliadOpsiwn 1Opsiwn 2Opsiwn 3
Gyda Sioe Wyddoniaeth Fyw10:15am – 1:00pm10:45am – 1:30pm11:00am – 2:00pm
Gyda sioe Blanetariwm10:00am – 12:45pm10:30am – 1:15pm11:00am – 1:45pm
Gyda gweithdy Lab KLA10:45am – 1:30pm11:00am – 1:45pm-
Arddangosfeydd yn unigGwahanol amseroedd ar gael, yn ddibynnol ar argaeledd

The Great British School Trip

Rydyn ni’n rhan o ‘The Great British School Trip’, sydd wedi’i gefnogi gan Hyundai! Oes angen cymorth ariannol neu adnoddau addysgol ar eich ysgol chi, ar gyfer taith ysgol? Darganfyddwch fwy o fanylion a sut i wneud cais.

Sioeau a Gweithdai

Science Theatre

Beth am ychwanegu sioe wyddoniaeth anhygoel, i gyfoethogi profiad eich disgyblion?


  Tymor yr Haf 2026

Newid Hinsawdd
16 Ebrill 2026

Cam Cynnydd 2 Cyfnod Sylfaenol
Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Sioe’r Corff Dynol
29–30 Ebrill 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Anifeiliaid a Chynefinoedd
6, 8 Mai 2026

Cam Cynnydd 2 Cyfnod Sylfaenol

Anifeiliaid a Chynefinoedd
14–15 Mai 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Sioe’r Grymoedd
20–22 Mai 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Newid Hinsawdd
11–12 Mehefin 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Ymarfer Mathemateg
18–19 Mehefin 2026

Cam Cynnydd 2 Cyfnod Sylfaenol

Ymarfer Mathemateg
24–26 Mehefin 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Ymarfer Mathemateg
1–2 Gorffennaf 2026

Cam Cynnydd 4 Cyfnod Allweddol 3

Yucky You!
6–7, 16 Gorffennaf 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


Mae sioeau gwyddoniaeth yn costio £2.50 ychwanegol fesul bob disgybl.

Planetarium

  Taflunydd 4K

Camwch i mewn i Blanetariwm ddigidol Techniquest a dewch am dro drwy’r Bydysawd — mae sêr, planedau a galaethau diri yn aros amdanoch chi!

Bydd disgyblion yn dysgu sut i adnabod sêr, planedau a chytserau y gellir eu gweld o’r Ddaear, ac yn mentro tu hwnt i’r Llwybr Llaethog i weld rhyfeddodau’r bydysawd. Gall gyflwynwyr ddangos y sêr a’r planedau’n agos, a rhannu lluniau o graterau lleuadau pell a ffenomenau eraill. Mae’r cyfan yn helpu atgyfnerthu profiadau dysgu’r disgyblion ac yn annog angerdd am gosmoleg a seryddiaeth.

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


Mae sioeau Planetariwm yn costio £2.50 ychwanegol fesul bob disgybl.

The KLA Lab

Newydd — ein Lab KLA newydd sbon, wedi’i ariannu gan y Sefydliad Garfield Weston a Sefydliad KLA.

Dewch â’ch disgyblion i brofi beth yw bod yn wyddonwr go iawn! Mae pob gweithdy’n para 45 munud. Dewiswch un o’r gweithdy sydd ar gael.


  Tymor yr Haf 2026

Didrefn Lliwgar
16 Ebrill 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Gwyddoniaeth Goroesi
29–30 Ebrill 2026
6, 8, 14–15 Mai 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Beth Dŵr Ateb?
20–22 Mai 2026
11–12 Mehefin 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Ein Byd o’r Gofod
18–19, 24–26 Mehefin 2026
1–2 Gorffennaf 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Gwyddoniaeth Amgylcheddol
6–7, 16 Gorffennaf 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


Mae gweithdy Lab yn costio £2.50 ychwanegol fesul bob disgybl.

Faint mae’n costio?

Mae mynediad i’r arddangosfa, sydd bellach yn cynnwys dros 100 o arddangosion ymarferol yn £5 y plentyn.

Mae gweithgareddau ychwanegol fel a ganlyn:

  • Theatr Wyddoniaeth: £2.50 y disgybl
  • Planetariwm: £2.50 y disgybl
  • Y Lab KLA: £2.50 y disgybl

Mynediad am ddim i athrawon sy’n mynychu gyda disgyblion.

Sut i archebu

Cwblhewch ein ffurflen ymholi a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

  ffurflen ymholi am daith ysgol