Techniquest

Mae’r polisi defnydd derbyniol hwn yn nodi’r telerau rhyngoch chi a ni ac mae mynediad i’n gwefan www.techniquest.org (ein gwefan) yn amodol ar y telerau hyn.

Mae’r polisi defnydd derbyniol hwn yn berthnasol i bawb sy’n defnyddio’n gwefan, ac yn ymweld â hi.

Mae eich defnydd o’n gwefan yn golygu eich bod yn derbyn, ac yn cytuno i gadw at, yr holl bolisïau yn y polisi defnydd derbyniol hwn, sy’n ategu ein telerau mewn perthynas â’r defnydd o’r wefan.

Mae www.techniquest.org yn safle a weithredir gan Techniquest (ni). Rydym yn elusen addysgol gofrestredig annibynnol (Rhif 517722) ac wedi cofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 01955696 ac mae ein swyddfa gofrestredig wedi’i lleoli Stryd Stuart, Caerdydd CF10 5BW, a dyma hefyd ein prif gyfeiriad masnachu. Ein rhif TAW yw 911544252.

Fel elusen gofrestredig, rydym yn cael ein rheoleiddio gan y Comisiwn Elusennau.

Rydym yn gwmni cyfyngedig.

 

Defnyddiau Gwaharddedig

Gallwch ddefnyddio ein gwefan at ddibenion cyfreithiol yn unig. Ni chaniateir i chi ddefnyddio ein gwefan:

  • Mewn unrhyw ffordd sy’n torri unrhyw gyfraith neu reoliad lleol, cenedlaethol neu ryngwladol berthnasol.
  • Mewn unrhyw ffordd sy’n anghyfreithlon neu’n dwyllodrus, neu sydd ag unrhyw bwrpas neu effaith anghyfreithlon neu dwyllodrus.
  • At ddibenion niweidio neu geisio niweidio plant dan oed mewn unrhyw ffordd.
  • I drosglwyddo, neu i achosi i unrhyw ddeunydd hysbysebu neu hyrwyddo digymell neu anawdurdodedig neu unrhyw fath arall o ddeunydd tebyg (spam), gael ei anfon.
  • I drosglwyddo unrhyw ddata yn fwriadol, anfon neu uwchlwytho unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys firysau, firysau ceffyl pen Troea, mwydod, bomiau amser, cofnodwyr trawiadau bysellau, ysbïwedd, adware neu unrhyw raglenni niweidiol eraill neu gôd cyfrifiadurol tebyg a gynlluniwyd i effeithio’n andwyol ar weithrediad unrhyw feddalwedd neu galedwedd cyfrifiadurol.

Rydych hefyd yn cytuno:

  • I beidio ag atgynhyrchu, dyblygu, copïo neu ailwerthu unrhyw ran o’n gwefan yn groes i ddarpariaethau ein telerau ar gyfer defnyddio’r wefan.
  • I beidio â mynd i mewn heb awdurdod, ymyrryd â, difrodi neu darfu ar:
    • unrhyw ran o’n gwefan;
    • unrhyw offer neu rwydwaith y mae ein gwefan yn cael ei storio arno;
    • unrhyw feddalwedd a ddefnyddir wrth ddarparu ein gwefan; neu
    • unrhyw offer neu rwydwaith neu feddalwedd sy’n eiddo i neu a ddefnyddir gan unrhyw drydydd parti.

 

Safonau Cynnwys

Mae’r safonau cynnwys hyn yn berthnasol i unrhyw ddeunydd rydych chi’n ei gyfrannu i’n gwefan (cyfraniadau), ac i unrhyw wasanaethau rhyngweithiol sy’n gysylltiedig â hi.

Rhaid i chi gydymffurfio ag ysbryd a llythyren y safonau canlynol. Mae’r safonau’n berthnasol i bob rhan o unrhyw gyfraniad yn ogystal â’r cyfraniad yn ei gyfanrwydd.

Mae’n rhaid i gyfraniadau:

  • Fod yn gywir (lle maent yn nodi ffeithiau).
  • Adlewyrchu daliadau gwirioneddol (lle maent yn datgan barn).
  • Cydymffurfio â’r gyfraith berthnasol yn y Deyrnas Unedig ac mewn unrhyw wlad y maent yn cael eu postio ohoni.

Ni ddylai’r cyfraniadau:

  • Gynnwys unrhyw ddeunydd sy’n ddifenwol o unrhyw berson.
  • Cynnwys unrhyw ddeunydd sy’n anweddus, sarhaus, atgas neu ymfflamychol.
  • Hyrwyddo deunydd sy’n rhywiol fanwl.
  • Hyrwyddo trais.
  • Hyrwyddo gwahaniaethu ar sail hil, rhyw, crefydd, cenedligrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu oedran.
  • Torri unrhyw hawlfraint, hawl cronfa ddata neu nod masnach unrhyw berson arall.
  • Fod yn debygol o dwyllo unrhyw un.
  • Gael eu gwneud yn groes i unrhyw ddyletswydd gyfreithiol sy’n ddyledus i drydydd parti, megis dyletswydd gytundebol neu ddyletswydd cyfrinachedd.
  • Hyrwyddo unrhyw weithgaredd anghyfreithlon.
  • Bod yn fygythiol, cam-drin neu ymosod ar breifatrwydd rhywun arall, neu achosi dicter, anhwylustod neu bryder diangen.
  • Bod yn debygol o aflonyddu ar, cynhyrfu, achosi embaras i, dychryn neu gythruddo unrhyw berson arall.
  • Cael ei ddefnyddio i ddynwared unrhyw berson, neu i gamliwio’ch hunaniaeth neu gysylltiad ag unrhyw berson.
  • Rhoi’r argraff eu bod yn tarddu oddi wrthym ni, os nad yw hynny’n wir.
  • Eirioli, hyrwyddo neu gynorthwyo unrhyw weithred anghyfreithlon megis (er enghraifft yn unig) torri hawlfraint neu gamddefnyddio cyfrifiadur.

 

Atal a Therfynu

Byddwn ni, yn ôl ein disgresiwn, yn penderfynu a fu achos o dorri’r polisi defnydd derbyniol hwn yn sgil eich defnydd o’n gwefan. Pan fydd y polisi hwn wedi cael ei dorri, gallwn gymryd unrhyw gamau sy’n briodol yn ein barn ni.

Mae methu â chydymffurfio â’r polisi defnydd derbyniol hwn yn gyfystyr â thorri’r telerau defnydd sy’n caniatáu i chi ddefnyddio ein gwefan, a gall arwain at gymryd yr holl gamau gweithredu canlynol neu unrhyw rai ohonynt:

  • Tynnu’n ôl yn ddi-oed, am gyfnod dros dro neu’n barhaol, eich hawl i ddefnyddio ein gwefan.
  • Dileu ar unwaith, am gyfnod dros dro neu’n barhaol unrhyw beth yr ydych yn ei bostio ar neu’n ei uwchlwytho i’n safle.
  • Cyflwyno rhybudd i chi.
  • Cymryd achos cyfreithiol yn eich erbyn am ad-daliad o’r holl gostau ar sail indemniad (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gostau gweinyddol a chyfreithiol rhesymol) sy’n codi o ganlyniad i dorri’r polisi.
  • Camau cyfreithiol pellach yn eich erbyn.
  • Datgelu gwybodaeth o’r fath i awdurdodau gorfodi’r gyfraith fel sy’n angenrheidiol yn ein barn resymol ni.

Ni fyddwn yn atebol am gamau a gymerir mewn ymateb i achosion o dorri’r polisi defnydd derbyniol hwn. Nid yw’r ymatebion a ddisgrifir yn y polisi hwn yn gyfyngedig, a gallwn gymryd unrhyw gamau eraill yr ydym yn eu hystyried yn rhesymol briodol.

 

Newidiadau i’r Polisi Defnydd Derbyniol

Efallai y byddwn yn adolygu’r polisi defnydd derbyniol hwn ar unrhyw adeg drwy ddiwygio’r dudalen hon. Disgwylir i chi wirio’r dudalen hon o bryd i’w gilydd i gymryd golwg ar unrhyw newidiadau a wnawn, gan eu bod yn gyfreithiol gyfrwymol arnoch chi. Gall rhai o’r darpariaethau a gynhwysir yn y polisi defnydd derbyniol hwn gael eu disodli hefyd gan ddarpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir mewn mannau eraill ar ein gwefan.