Techniquest

Mae’r telerau ac amodau hyn (“Telerau”) yn berthnasol i’r nwyddau ar-lein yr ydym ni, Techniquest, yn eu gwerthu i chi, y cwsmer, trwy ein siop gwefan shop.techniquest.org (ein “Gwefan”).

Amdanom ni

I siopa ar ein gwefan, mae’n rhaid i chi:

  • fod o leiaf 16 mlwydd oed
  • talu drwy ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd yr ydym yn ei dderbyn; a
  • fod ag awdurdod i ddefnyddio’r cerdyn credyd neu ddebyd hwnnw.

Dim ond trwy ein Gwefan ac ar y Telerau hyn y gallwn werthu nwyddau i chi os ydych chi’n gwsmer. Os ydych chi’n fusnes, cysylltwch â ni ar [email protected] i gael rhagor o wybodaeth.

Gosod Archeb

I archebu, defnyddiwch eich cerdyn credyd neu ddebyd i dalu am y cynnyrch. Mae rhestr o gardiau cymeradwy ar gael wrth y ddesg.

Os byddwn yn derbyn yr Archeb, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy ddull electronig ar-lein (“Cadarnhad“) i’r cyfeiriad e-bost rydych wedi’i roi i ni wrth archebu. Yna, bydd yr Archeb yn cael ei gyflawni erbyn y dyddiad a nodir yn y Cadarnhad neu, os nad yw’r Cadarnhad yn cynnwys dyddiad o’r fath, o fewn 30 diwrnod i ddyddiad anfon y Cadarnhad hwnnw. Bydd contract cyfreithiol gyfrwymol yn cael ei ffurfio rhyngom ar adeg anfon y Cadarnhad hwnnw.

Os ydych am newid eitem o fewn archeb, neu olygu cyfeiriad danfon, gwnewch unrhyw newidiadau i’ch basged cyn talu. Unwaith y bydd archeb yn cael ei gosod ar-lein, ni ellir ei newid a byddai angen i chi ganslo’r archeb anghywir cyn gynted â phosibl trwy e-bostio [email protected] neu ffonio 029 2047 5475. Ni allwn ganslo archebion unwaith y bydd y cynhyrchion wedi’u dosbarthu.

Mae pob archeb yn amodol ar argaeledd a chadarnhad o bris yr archeb. Os oes problem gyda’ch archeb, byddwn yn cysylltu â chi.

Disgrifiadau o Gynnyrch a’u Prisiau

Cymerwyd gofal i sicrhau cywirdeb disgrifiadau, manylebau a phrisiau ar ein Gwefan.

Mae’r prisiau a ddangosir ar ein gwefan yn cynnwys TAW ac eithrio ffioedd danfon. Codir ffioedd danfon yn ychwanegol. Bydd y rhain yn cael eu dangos yn glir yn ystod y broses dalu a’u cynnwys yn y ‘Cyfanswm Cost’ a ddangosir ar gyfer eich archeb cyn talu.

Nid yw codau disgownt ar-lein yn cynnwys Postio & Phacio, oni nodir yn wahanol. Gellir defnyddio codau disgownt ar y cyd â phrisiau sêl a chynigion arbennig.

Danfon

Ar hyn o bryd, ni fedrwn dderbyn archebion rhyngwladol. Gallwn dderbyn archebion i’w dosbarthu o fewn y Deyrnas Unedig.

Wrth archebu, bydd y ffi ddanfon benodol ar gyfer eich eitem(au) yn cael ei dangos wrth y ddesg dalu unwaith y byddwch wedi nodi’r dull danfon o’ch dewis, cyn cadarnhau eich archeb. Ni fydd rhaid talu ffioedd danfon ar gyfer archebion sydd werth mwy na swm penodol.

Os oes unrhyw broblemau gyda danfon eich archeb, neu os nad ydych wedi derbyn eich archeb o fewn 30 diwrnod i’w anfon, cysylltwch â ni drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 029 2047 5475.

Rydym yn gweithio’n galed i anfon nwyddau yn gyflym, ond am resymau y tu allan i’n rheolaeth efallai y bydd oedi weithiau cyn derbyn eich archeb — gall streiciau post, logisteg cludwyr a thywydd gwael i gyd fod yn ffactorau. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydym yn rhagweld oedi cyn danfon eich archeb. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am oedi am resymau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth.

Taliad

Rydym yn derbyn taliad trwy gerdyn credyd a debyd, gan gynnwys Visa, Mastercard, Amex, Discover, Diners Club a Maestro. Rydym hefyd yn derbyn taliadau trwy Shop Pay, Apple Pay a Google Pay.

Codir tâl ar daliadau cardiau credyd neu ddebyd unwaith y bydd eich archeb wedi’i gosod, a’ch bod wedi derbyn cadarnhad e-bost o’r archeb. Pan fydd taliad yn cael ei gymryd o’ch cerdyn, bydd y trafodiad ar ddatganiad eich cerdyn yn nodi “TECHNIQUEST SHOP”. Pan fydd eich archeb wedi’i gosod, byddwn yn gweithio i gyflawni eich archeb o fewn 5 diwrnod gwaith ac ar yr adeg honno, byddwch yn derbyn e-bost yn dweud bod yr archeb wedi’i hanfon. Yna bydd y cludwr a ddewiswyd yn danfon eich nwyddau o fewn yr amserlen a nodwyd.

Mae’r holl drafodion yn cael eu cymryd mewn punnoedd sterling (GBP £). Os yw’ch cerdyn credyd mewn unrhyw arian cyfred arall, y gyfradd gyfnewid fydd cyfradd cyhoeddwr eich cerdyn ac efallai y byddant yn codi ffi ryngwladol arnoch. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw ffioedd ychwanegol y gallai cyhoeddwr eich cerdyn eu codi.

Mae ein proses dalu ar-lein yn digwydd mewn amgylchedd diogel a ddarperir gan Shopify — am fwy o wybodaeth ewch i bolisi preifatrwydd Shopify.

Eitemau ar Sêl a Chynigion Hyrwyddo

O bryd i’w gilydd, rydym yn cynnig nwyddau ar sêl neu gynigion hyrwyddo.

Oni bai eu bod wedi’u difrodi neu’n ddiffygiol, gellir cael ad-daliad am eitemau a brynwyd fel rhan o gynnig hyrwyddo ond dim ond os dychwelir yr holl eitemau a brynwyd o fewn y cynnig ar gyfer ad-daliad.

Dychwelyd a Chyfnewid

Rydym yn gobeithio y byddwch yn hapus â’ch pryniant. Fodd bynnag, os byddwch yn newid eich meddwl, dychwelwch y nwyddau atom yn eu cyflwr a’u pecyn gwreiddiol, gydag unrhyw labeli dal ynghlwm, a byddwn yn rhoi ad-daliad i chi. Dylid dychwelyd nwyddau’n unol â’n proses ddychwelyd, a nodir ar ein tudalen ‘Polisi Ad-daliadau’.

Eitemau Diffygiol ac Anghywir

Mae’n ddrwg gennym ddweud y gall eitemau weithiau ddatblygu diffygion. Ar gyfer eitemau sydd wedi datblygu nam gweithgynhyrchu o fewn chwe mis i’w prynu, cysylltwch â’n tîm gwasanaethau cwsmeriaid ar-lein ar 029 2047 5475 neu drwy e-bostio [email protected] i drefnu i gael eitemau yn eu lle neu ad-daliad. Ni allwn anfon eitemau yn lle eitemau diffygiol na rhoi ad-daliad yn achos eitemau a brynwyd fwy na chwe mis yn ôl.

Peidiwch â dychwelyd eitemau heb siarad â’n tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn gyntaf am gyngor.

Am fwy o wybodaeth am ein prosesau dychwelyd a chyfnewid, gweler ein tudalen ‘Polisi Ad-daliadau’.

Ein Cyfrifoldeb am Golledion

Byddwn yn eich digolledu am golledion uniongyrchol a achosir gennym ni neu ein cynnyrch. Fodd bynnag, nid ydym yn gyfrifol am golledion yr ydych yn eu dioddef:

  • nad oedd modd eu rhagweld (h.y. nid oedd yn amlwg y byddai’r golled yn digwydd ac nid oedd unrhyw beth a ddywedasoch wrthym cyn i ni dderbyn eich archeb yn golygu y dylem fod wedi disgwyl hynny);
  • sydd wedi’i achosi gan ddigwyddiad y tu hwnt i’n rheolaeth;
  • y gellid bod wedi eu hosgoi (h.y. colled y gallech fod wedi’i hosgoi drwy gymryd camau rhesymol, gan gynnwys dilyn cyfarwyddiadau defnydd rhesymol); neu
  • colledion busnes.

Cwynion

Rydym yn gobeithio y byddwch yn hapus gyda’ch archeb a’r nwyddau a dderbyniwyd. Fodd bynnag, os oes angen i chi wneud cwyn i ni, gallwch gysylltu â ni ar 029 2047 5475 neu fel arall drwy e-bostio [email protected].

Dewisiadau Cylchlythyr a Gwybodaeth Bersonol

Rydym yn cyhoeddi e-gylchlythyrau rheolaidd, fel y gallwch glywed am ein cynigion diweddaraf a newyddion y tu ôl i’r llenni. Rydym yn defnyddio’ch data personol fel y nodir yn ein hysbysiad preifatrwydd. Gweler ein hysbysiad preifatrwydd yma.

Os nad ydych yn dymuno clywed gennym mwyach, neu os hoffech newid eich dewisiadau e-bost gallwch wneud hynny gan ddefnyddio’r dolenni wrth droed unrhyw ohebiaeth newyddlen a gawsoch gennym ni.

Fel arall, cysylltwch â ni a gall ein tîm dynnu’ch manylion yn uniongyrchol o’n cronfa ddata.