Techniquest

Darllenwch y telerau ac amodau hyn yn ofalus cyn defnyddio’r wefan hon.

Beth sydd yn y telerau hyn?

Mae’r telerau hyn yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar gyfer defnyddio ein gwefan www.techniquest.org (ein gwefan).

Cliciwch ar y dolenni isod i fynd yn syth i fwy o wybodaeth am bob maes:

Pwy ydym ni a sut i gysylltu â ni

www.techniquest.org yn safle a weithredir gan Techniquest (“Ni”). Rydym yn elusen addysgol gofrestredig annibynnol (Rhif 517722) ac wedi cofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 01955696 ac mae ein swyddfa gofrestredig yn Stryd Stuart, Caerdydd CF10 5BW, a dyma hefyd yw ein prif gyfeiriad masnachu. Ein rhif TAW yw 911544252.

Fel elusen gofrestredig, rydym yn cael ein rheoleiddio gan y Comisiwn Elusennau.

Rydym yn gwmni cyfyngedig.

I gysylltu â ni, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch ein llinell gwasanaeth cwsmeriaid ar 029 2047 5475.

Trwy ddefnyddio ein gwefan rydych yn derbyn y telerau hyn

Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau defnydd hyn a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â nhw.

Os nad ydych yn cytuno â’r telerau hyn, ni ddylech ddefnyddio ein gwefan.

Rydym yn argymell eich bod yn argraffu copi o’r telerau hyn er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol.

Mae telerau eraill a allai fod yn berthnasol i chi

Mae’r telerau defnydd hyn yn cyfeirio at y telerau ychwanegol canlynol, sydd hefyd yn berthnasol i’ch defnydd o’n gwefan:

  • Ein Polisi Preifatrwydd, sy’n nodi’r telerau ar gyfer prosesu unrhyw ddata personol a gasglwn gennych chi, neu yr ydych yn ei ddarparu i ni. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cydsynio i brosesu o’r fath ac rydych yn gwarantu bod yr holl ddata a ddarperir gennych yn gywir.
  • Ein Polisi Defnydd Derbyniol, sy’n nodi’r defnydd a ganiateir a defnydd gwaharddedig o’n gwefan. Wrth ddefnyddio ein gwefan, rhaid i chi gydymffurfio â’r Polisi Defnydd Derbyniol hwn.
  • Ein Polisi Cwcis, sy’n nodi gwybodaeth am y cwcis ar ein gwefan.

Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i’r telerau hyn

Rydym yn diwygio’r telerau hyn o bryd i’w gilydd. Bob tro y byddwch yn dymuno defnyddio ein gwefan, gwiriwch y telerau hyn i sicrhau eich bod yn deall y telerau sy’n berthnasol bryd hynny.

Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i’n gwefan

Efallai y byddwn yn diweddaru ac yn newid ein gwefan o bryd i’w gilydd i adlewyrchu newidiadau i’n cynhyrchion, anghenion ein defnyddwyr a’n blaenoriaethau busnes. Byddwn yn ceisio rhoi rhybudd rhesymol i chi o unrhyw newidiadau mawr.

Efallai y byddwn yn atal neu’n tynnu ein gwefan yn ôl

Mae ein gwefan ar gael yn rhad ac am ddim.

Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefan, nac unrhyw gynnwys arni, bob amser ar gael neu’n ddi-dor. Efallai y byddwn yn atal neu’n tynnu’n ôl neu’n cyfyngu ar argaeledd y cyfan o’n gwefan neu unrhyw ran ohoni am resymau busnes a gweithredol. Byddwn yn ceisio rhoi rhybudd rhesymol i chi o unrhyw fwriad i’w hatal neu ei thynnu’n ôl.

Rydych hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod pawb cael mynediad i’n gwefan trwy eich cysylltiad rhyngrwyd yn ymwybodol o’r telerau defnydd hyn a thelerau ac amodau cymwys eraill, a’u bod yn cydymffurfio â nhw.

Sut y gallwch ddefnyddio deunydd ar ein gwefan

Ni yw perchennog neu drwyddedai pob hawl sy’n ymwneud ag eiddo deallusol ar ein gwefan, ac yn y deunydd a gyhoeddir arni. Mae’r gweithiau hynny wedi’u diogelu gan gyfreithiau hawlfraint a chytundebau ledled y byd. Cedwir yr holl hawliau hyn.

Gallwch argraffu un copi, a gallwch lawrlwytho darnau o unrhyw dudalen(nau) o’n gwefan at eich defnydd personol a gallwch dynnu sylw eraill o fewn eich sefydliad at gynnwys a bostiwyd ar ein gwefan.

Rhaid i chi beidio ag addasu copïau papur neu ddigidol unrhyw ddeunyddiau rydych chi wedi’u hargraffu neu eu lawrlwytho mewn unrhyw ffordd, ac ni ddylech ddefnyddio unrhyw ddarluniau, ffotograffau, fideo neu ddilyniannau sain nac unrhyw graffeg ar wahân i unrhyw destun cysylltiedig.

Rhaid cydnabod ein statws (ac unrhyw gyfranwyr a nodwyd) fel awduron y cynnwys ar ein gwefan bob amser.

Ni ddylech ddefnyddio unrhyw ran o’r cynnwys ar ein gwefan at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu’n trwyddedwyr.

Os ydych yn argraffu, copïo neu lawrlwytho unrhyw ran o’n gwefan yn groes i’r telerau defnydd hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefan yn dod i ben ar unwaith a rhaid i chi, os ydym yn dewis, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o’r deunyddiau rydych chi wedi’u gwneud.

Peidiwch â dibynnu ar wybodaeth ar y wefan hon

Mae’r cynnwys ar ein gwefan yn cael ei ddarparu ar gyfer gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni fwriedir iddo fod yn gyngor y dylech ddibynnu arno. Mae’n rhaid i chi gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn cymryd, neu ymatal rhag unrhyw gamau gweithredu ar sail y cynnwys ar ein gwefan.

Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar ein gwefan, nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau, rhoi unrhyw warantïau neu warantau, p’un a ydynt wedi eu datgan yn benodol neu’n ymhlyg, bod y cynnwys ar ein gwefan yn gywir, yn gyflawn neu’n gyfredol.

Pan fydd ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y dolenni hyn ar gyfer eich gwybodaeth yn unig. Ni ddylid dehongli dolenni o’r fath fel cymeradwyaeth gennym ni o’r gwefannau neu’r wybodaeth gysylltiedig hynny y gallech eu cael ganddynt.

Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y gwefannau neu’r adnoddau hynny.

Nid yw cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr yn cael ei gymeradwyo gennym ni

Gall y wefan hon gynnwys gwybodaeth a deunyddiau a lanlwythwyd gan ddefnyddwyr eraill y wefan, gan gynnwys i fyrddau bwletin ac ystafelloedd sgwrsio. Nid yw’r wybodaeth hon na’r deunyddiau hyn wedi’u gwirio na’u cymeradwyo gennym ni. Nid yw’r safbwyntiau a fynegir gan ddefnyddwyr eraill ar ein gwefan yn cynrychioli ein safbwyntiau na’n gwerthoedd.

Ein cyfrifoldeb am golled neu ddifrod a ddioddefir gennych chi

P’un a ydych chi’n ddefnyddiwr neu’n ddefnyddiwr busnes::

  • Nid ydym yn eithrio nac yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd ar ein hatebolrwydd i chi lle byddai’n anghyfreithlon gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod neu esgeulustod ein gweithwyr, asiantau neu isgontractwyr ac am dwyll neu gamliwio twyllodrus.

Os ydych chi’n ddefnyddiwr busnes::

  • Rydym yn eithrio’r holl amodau ymhlyg, gwarantau, sylwadau neu delerau eraill a allai fod yn berthnasol i’n gwefan neu unrhyw gynnwys arni.
  • Ni fyddwn yn atebol i chi am unrhyw golled neu ddifrod, boed hynny mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), torri dyletswydd statudol, neu fel arall, hyd yn oed os yw’n rhagweladwy, sy’n codi o dan neu mewn cysylltiad â:
    • defnydd neu anallu i ddefnyddio ein gwefan; neu
    • defnyddio neu ddibynnu ar unrhyw gynnwys a ddangosir ar ein gwefan.
  • Yn benodol, ni fyddwn yn atebol am:
    • colli elw, gwerthiannau, busnes neu refeniw;
    • ymyrraeth busnes;
    • colli arbedion a ragwelwyd;
    • colli cyfle busnes, ewyllys da neu enw da; neu
    • unrhyw golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol.

Os ydych chi’n defnyddio ein gwefan fel cwsmer::

  • Sylwch mai dim ond ar gyfer defnydd domestig a phreifat y byddwn yn darparu ein gwefan. Rydych yn cytuno i beidio â defnyddio ein gwefan at unrhyw ddibenion masnachol neu fusnes, ac nid oes gennym unrhyw gyfrifoldeb i chi am golli elw, colli busnes, tarfu ar fusnes, neu golli cyfle busnes.

Uwchlwytho cynnwys i’n gwefan

Pryd bynnag y byddwch yn defnyddio nodwedd sy’n eich galluogi i uwchlwytho cynnwys i’n gwefan, rhaid i chi gydymffurfio â’r safonau cynnwys a nodir yn ein Polisi Defnydd Derbyniol.

Rydych yn gwarantu bod unrhyw gyfraniad o’r fath yn cydymffurfio â’r safonau hynny, a byddwch yn atebol i ni ac yn ein hindemnio am unrhyw doriad o’r warant honno. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefwn o ganlyniad i’ch achos o dorri gwarant.

Bydd unrhyw gynnwys rydych chi’n ei uwchlwytho i’n gwefan yn cael ei ystyried yn anghyfrinachol ac amherchenogol. Rydych chi’n cadw’ch holl hawliau perchnogaeth yn eich cynnwys, ond mae’n ofynnol i chi roi trwydded gyfyngedig i ni a defnyddwyr eraill ein gwefan i ddefnyddio, storio a chopïo’r cynnwys hwnnw a’i ddosbarthu a’i ddarparu i drydydd partïon.

Chi yn unig sy’n gyfrifol am sicrhau a chynnal copi wrth gefn o’ch cynnwys.

Nid ydym yn gyfrifol am firysau ac ni ddylech eu cyflwyno

Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefan yn ddiogel neu’n rhydd rhag bygiau neu firysau.

Chi sy’n gyfrifol am ffurfweddu’ch technoleg gwybodaeth, rhaglenni cyfrifiadurol a’ch platfform i gael mynediad i’n gwefan. Dylech ddefnyddio eich meddalwedd diogelu rhag firysau eich hun.

Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio ein gwefan trwy gyflwyno firysau, firysau ceffyl pen Troea, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol. Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i’n gwefan, y gweinydd y mae ein gwefan yn cael ei storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â’n gwefan. Ni ddylech ymosod ar ein gwefan trwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth neu ymosodiad gwrthod gwasanaeth dosbarthedig. Drwy dorri’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn adrodd am unrhyw doriad o’r fath i’r awdurdodau gorfodi’r gyfraith perthnasol a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny drwy ddatgelu pwy ydych chi iddynt. Os bydd toriad o’r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefan yn dod i ben ar unwaith.

Rheolau ynghylch cysylltu â’n gwefan

Gallwch gysylltu â’n tudalen hafan, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n deg a chyfreithiol ac nad yw’n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno.

Rhaid i chi beidio â sefydlu dolen yn y fath fodd sy’n awgrymu bod unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu ardystiad ar ein rhan ni lle nad oes un yn bodoli.

Rhaid i chi beidio â sefydlu dolen i’n gwefan ar unrhyw wefan nad yw’n eiddo i chi.

Ni ddylid fframio ein gwefan ar unrhyw wefan arall, ac ni chewch greu dolen i unrhyw ran o’n gwefan ac eithrio’r dudalen hafan.

Rydym yn cadw’r hawl i dynnu’n ôl heb rybudd unrhyw ganiatâd i gysylltu i’r wefan.

Rhaid i’r wefan rydych yn cysylltu ynddi gydymffurfio ym mhob ffordd â’r safonau cynnwys a nodir yn ein Polisi Defnydd Derbyniol.

Os hoffech gysylltu â neu wneud unrhyw ddefnydd o gynnwys ar ein gwefan ac eithrio’r hyn a nodir uchod, cysylltwch â [email protected].

Cyfreithiau pa wlad sy’n berthnasol i unrhyw anghyfodau?

Os ydych chi’n ddefnyddiwr, nodwch fod y telerau defnyddio hyn, eu pwnc a’u ffurfiad, yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr. Rydych chi a ninnau ill dau yn cytuno y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth unigryw ac eithrio os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon oherwydd gallwch hefyd ddwyn achos yng Ngogledd Iwerddon, ac os ydych chi’n byw yn yr Alban, gallwch hefyd ddwyn achos yn Yr Alban.

Os ydych chi’n fusnes, mae’r telerau defnydd hyn, eu pwnc a’u ffurf (ac unrhyw anghydfodau neu honiadau nad ydynt yn gytundebol) yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr. Mae’r ddau ohonom yn cytuno i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.

Mae ein nodau masnach wedi’u cofrestru

Mae Techniquest a logo Techniquest yn nodau masnach cofrestredig y DU o Techniquest. Ni chaniateir i chi eu defnyddio heb ein cymeradwyaeth.