Techniquest

Mae’r polisi hwn yn nodi sut a pham rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan, ac yn cynnig adnoddau a fydd yn eich galluogi i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch derbyn, gwrthod neu ddileu unrhyw gwcis a ddefnyddiwn.

Rydym yn defnyddio cwcis i wella’r ffordd y mae ein gwefan yn gweithio. Mae rhai cwcis trydydd parti hefyd yn cael eu gosod gan gwmnïau rydym yn gweithio gyda nhw. Mae rhai o’r cwcis hyn yn ddewisol. Isod, rydym wedi nodi’r cwcis rydyn ni’n eu defnyddio a sut rydyn ni’n eu categoreiddio. Gallwch newid eich dewisiadau cwcis ar ein gwefan, ar unrhyw adeg.

Efallai y bydd y polisi hwn yn newid, felly gwiriwch ef yn rheolaidd. Ni ellir ein dal yn gyfrifol os yw’r wybodaeth yn y polisi hwn wedi dyddio neu’n cynnwys gwallau argraffyddol. Os oes unrhyw beth yr hoffech ei drafod gyda ni, cysylltwch â ni ar unwaith.

Cwcis yr ydym ni’n eu defnyddio

Cwcis Anghenrheidiol — Bob Amser yn Weithredol

Mae’r cwcis hyn yn angenrheidiol er mwyn i’n gwefan weithredu ac ni ellir eu diffodd yn ein systemau. Gallwch osod eich porwr i flocio neu eich rhybuddio am y cwcis hyn, ond ni fydd rhai rhannau o’r wefan yn gweithio yn ôl y disgwyl. Mewn rhai achosion, mae’r cwcis hyn yn cael eu gosod gan wasanaethau trydydd parti yr ydym yn eu defnyddio ar ein gwefan.

Mae’r cwcis hyn fel arfer yn cael eu gosod mewn ymateb i gamau gweithredu a gymerwyd gennych chi sy’n gyfystyr â chais am wasanaethau, megis gosod eich dewisiadau rheoli cwcis, ychwanegu eitemau at gert, mewngofnodi neu lenwi ffurflenni.

Cwcis dadansoddol

Y rhagosodiad ar gyfer y rhain yw ‘diffodd’, oni bai eich bod yn eu derbyn. Gallwch newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg.

Mae’r cwcis hyn yn ein galluogi i gyfrif ymweliadau a ffynonellau traffig fel y gallwn fesur, monitro a gwella perfformiad ein gwefan. Maen nhw’n ein helpu ni i wybod pa dudalennau sydd fwyaf poblogaidd ac i weld sut mae ymwelwyr yn symud o gwmpas y wefan. Mae’r holl wybodaeth y mae’r cwcis hyn yn ei chasglu yn cael ei chyfuno ac o’r herwydd, mae’n ddienw. Os na fyddwch yn caniatáu’r cwcis hyn, ni fyddwn yn gwybod pryd rydych wedi ymweld â’n gwefan, ac ni fyddwn yn gallu monitro ei berfformiad.

Cwcis marchnata

Y rhagosodiad ar gyfer y rhain yw ‘diffodd’, oni bai eich bod yn eu derbyn. Gallwch newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg.

Gall y cwcis hyn gael eu gosod trwy ein gwefan gan ein partneriaid hysbysebu. Efallai y bydd y cwmnïau hynny’n eu defnyddio i adeiladu proffil o’ch diddordebau a dangos hysbysebion perthnasol i chi ar wefannau eraill. Nid ydynt yn storio gwybodaeth bersonol uniongyrchol, ond maent yn seiliedig ar adnabod eich porwr a’ch dyfais rhyngrwyd yn unigryw. Os na fyddwch yn caniatáu’r cwcis hyn, byddwch yn gweld hysbysebion llai targedig.

Rhagor o wybodaeth

I ddarllen mwy am ddefnyddio cwcis, eich hawliau, a sut i reoli neu ddileu cwcis, rydym wedi casglu’r adnoddau canlynol: