Techniquest

Ar ôl prynu tocyn neu daleb rhodd o’n gwefan, byddwch yn derbyn e-bost gyda’ch tocyn neu daleb rhodd.

Yr e-bost hwn yw’r dystiolaeth eich bod wedi prynu taleb. Sicrhewch eich bod wedi derbyn yr e-bost hwn ar ôl prynu taleb. Nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb os na fyddwch yn derbyn yr e-bost hwn oherwydd rhesymau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth.

Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio cywirdeb y manylion ar eich tocyn neu daleb rhodd oherwydd ni fedrir cywiro camgymeriadau bob amser.

Mae’r Telerau ac Amodau hyn (“Telerau”) yn nodi’r holl delerau ac amodau yr ydym yn eu darparu i chi a’ch gwesteion (“chi” ac “eich”) mewn perthynas â mynediad i Techniquest.

Wrth brynu’r tocyn gan Techniquest (“ni” “ni” “ein”) rydych yn cytuno:

  1. Bod y tocyn yn ddilys ar gyfer y dyddiad a’r amser mynediad a nodir arno yn unig.
  2. Oriau agor Techniquest yw:
    Yn ystod y tymor:
    Dydd Llun–dydd Mawrth: Ar gau
    Dydd Mercher–dydd Gwener: 14:00–17:00
    Dydd Sadwrn–dydd Sul: 10:00–17:00

    Yn ystod gwyliau’r ysgol
    Llun–Sul: 10:00–17:00

    Gwyliau Banc Dethol
    10:00–17:00

  3. Yn ystod eich ymweliad rhaid i chi gadw’ch tocyn yn ddiogel ar gyfer ei ddangos os bydd aelod o staff yn gofyn i chi wneud hynny.
  4. Ni ellir cyfnewid neu gael ad-daliad am eich tocynnau. Rydym yn argymell yn gryf y dylid prynu tocynnau cyn diwrnod eich ymweliad er mwyn osgoi cael eich siomi.
  5. Ni ellir cyfnewid talebau rhodd am arian parod, eu dychwelyd neu eu had-dalu ac maent yn ddilys ar gyfer mynediad i Techniquest yn unig ac ni ellir eu cyfnewid am nwyddau gan gynnwys eitemau, bwyd neu ddiodydd y gellir eu prynu unwaith y byddwch y tu mewn i Techniquest.
  6. Ni allwn fod yn atebol am dalebau rhodd sydd yn mynd ar goll, yn cael eu dwyn neu eu difrodi. Rydym yn cadw’r hawl i wrthod derbyn taleb anrheg sydd, yn ein barn ni, wedi cael ei ymyrryd â hi, ei dyblygu neu ei difrodi.
  7. Mae eich ymweliad â Techniquest bob amser yn amodol ar unrhyw rybudd i ymwelwyr yr ydym yn eu postio ar ein safle; cyfarwyddyd ac arweiniad ein staff; a’r Telerau hyn.
  8. Rhaid i bob plentyn o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn (16+) bob amser.
  9. Caiff gofalwyr, sy’n gorfod bod dros 18 oed ac sy’n gofalu am ymwelydd sydd angen gofal neu gymorth llawn amser, fynediad yn rhad ac am ddim ar ôl dangos un o’r mathau canlynol o brawf adnabod.
    1. Prawf o Lwfans Byw i’r Anabl; neu
    2. Bathodyn Glas; neu,
    3. Llythyr wedi’i arwyddo gan feddyg.
  10. Gall ymwelwyr anabl ddod â chŵn tywys neu gymorth i Techniquest; ni chewch ddod ag unrhyw gi neu greaduriaid byw eraill i’r safle.
  11. Rydym yn cadw’r hawl yn ôl ein disgresiwn i gau Techniquest neu ran o Techniquest heb rybudd; ac mewn unrhyw achos o’r fath
    1. ni fyddwn yn atebol i chi am unrhyw golled o ran busnes, refeniw neu elw, (boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) nac am unrhyw golled anuniongyrchol, arbennig neu ganlyniadol o unrhyw fath sut bynnag y cododd mewn unrhyw achos; a
    2. ni fydd ein hatebolrwydd mwyaf i chi yn fwy na’r cyfanswm a dalwyd gennych am eich tocyn(nau).
  12. Os caiff eich tocyn ei ailwerthu neu ei drosglwyddo er elw neu enillion masnachol bydd y tocyn hwnnw’n annilys.
  13. Yn fwriadol, gall Tocynnau Adegau Tawel dim ond cael eu defnyddio gan yr enw ar y tocyn, ac nad oes modd trosglwyddo’r tocyn i berson eraill. Ni ddylid eu defnyddio ar gyfer sesiynau lluosog ar yr un diwrnod, a gall trio archebu mwy nag un sesiwn ar yr un dydd achosi i’r tocyn troi’n ddi-rym.
  14. Mae caffi ar y safle ac ni chaniateir i chi fwyta eich bwyd neu yfed eich diod eich hun yn yr ardal hon.
  15. Ni chaniateir i chi ddod ag alcohol i mewn i Techniquest. Gall unrhyw berson a ganfyddir yn meddu ar alcohol wrth fynd i mewn neu sy’n ymddangos fel petai’n ormodol o dan ddylanwad alcohol gael eu gwrthod neu eu hebrwng allan heb hawl i ad-daliad. Rydym yn cadw’r hawl i ganiatáu i alcohol gael ei weini mewn digwyddiadau a derbyniadau preifat.
  16. Caniateir i chi dynnu lluniau y tu mewn i Techniquest at ddibenion anfasnachol yn unig, ond gofynnwn i chi gofio preifatrwydd pobl eraill.
  17. Rydym yn cadw’r hawl i wrthod mynediad, neu fynnu bod person sydd eisoes wedi cael mynediad i adael Techniquest, heb ad-daliad neu iawndal, os yw’n ymddwyn yn anniogel, anghyfreithlon neu sarhaus a hynny er mwyn sicrhau diogelwch neu drefn, neu os ydym o’r farn bod yr amgylchiadau’n mynnu hynny.
  18. Mae Techniquest yn gyfleuster di-fwg ac mae ysmygu (gan gynnwys e-sigaréts) yn cael ei wahardd bob amser.
  19. Byddwn yn prosesu unrhyw ddata personol a gasglwn gennych yn unol â’n Polisi Preifatrwydd. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu i ni ar-lein:
    1. i gymryd a chwblhau eich archeb;
    2. i brosesu eich taliadau ar gyfer eich archeb; a
    3. os gwnaethoch gytuno i hyn yn ystod y broses archebu, i’ch hysbysu am wasanaethau tebyg yr ydym ni neu ein partneriaid yn eu darparu, ond gallwch roi’r gorau i dderbyn y rhain ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni.
  20. Mae’r cytundeb hwn yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru a Lloegr ac awdurdodaeth unigryw llysoedd Lloegr.