Techniquest

Science Theatre

Mae’r sioe hon ar gael yn Gymraeg neu Saesneg.

Mae atomau ym mhob man!

Bydd sioe Elfennol yn taflu goleuni ar yr elfennau sydd o’n hamgylch ni. O fetelau alcalïaidd i’r nwyon nobl, byddwn yn archwilio priodweddau nifer o’r elfennau mwyaf cyffredin, yn edrych ar sut maent yn ymateb i’w gilydd ac yn edrych ar effaith tymheredd arnynt.

Dyma gyflwyniad gwych i’r tabl cyfnodol a strwythur yr atom – gyda phopeth o hydrogen ffrwydrol i ocsigen rhewllyd!

Cam Cynnydd 4 Cyfnod Allweddol 3


Gwybodaeth ychwanegol

  • Hyd y sioe: 30 munud