Techniquest

Science Theatre

Nodwch mai Saesneg yw iaith y sioe hon.

Mae’r moroedd yn gorchuddio dros 70% o arwyneb ein planed. Mae’n rhan hollbwysig o ecosystem y Ddaear ac mae’n llawn bywyd mawr a bach.

Ymunwch â ni ar siwrnai sy’n mynd o’r riffau cwrel prydferth i ddyfnderoedd tywyll lle mae pysgod yn disgleirio yn y tywyllwch a llu o greaduriaid yn trigo. Byddwn yn darganfod mwy am sut mae ein moroedd yn newid a’r hyn y gallwn ni ei wneud i ddiogelu bydoedd tanddwr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd cyfle i chi brofi eich gwybodaeth bersonol gyda chwis yn llawn ffeithiau’r môr, a gweld os fyddech chi’n gwneud eigionegydd penigamp! Byddwn ni hyd yn oed yn darganfod ffordd ffrwydrol o greu dŵr!

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


Gwybodaeth ychwanegol

  • Hyd y sioe: 30 munud